Llygad cath

Oddi ar Wicipedia
Mae sfferau adlewyrchol yn cael eu gosod mewn casyn i greu'r 'llygad cath'.

Dyfais adlewyrchol sy'n cael ei roi ar wyneb ffordd er mwyn hybu diogelwch yw llygad cath.

Cafodd y ddyfais ei ddylunio gyntaf yn Lloegr yn 1934. Eu dyfeisydd oedd Percy Shaw o Boothtown, Halifax yng Ngorllewin Swydd Efrog, Lloegr. Pan dynnwyd cledrau'r tram o faestref Ambler Thorn gerllaw, sylwodd Shaw ei fod wedi bod yn defnyddio'u hadlewyrchiad i'w helpu i deithio yn y nos.[1] Daw'r enw "llygad cath" o'r hyn roddodd ysbrydoliaeth i ddyluniad Shaw: adlewyrchiad y golau mewn llygaid cath. Rhoddodd batent ar ei ddyfais yn 1934 (rhifau patent. 436,290 a 457,536), ac ar 15 Mawrth 1935, sefydlodd Reflecting Roadstuds Limited yn Halifax i'w gweithgynhyrchu.[2][3] Yr enw Catseye yw eu nod masnach.[4] Roedd y lens adlewyrchol wedi'i ddyfeisio chwe blynedd ynghynt gan Richard Hollins Murray, cyfrifydd o Swydd Henffordd[5][6]. Roedd Shaw yn cydnabod bod rhain wedi cyfrannu i'w syniad.[1]

Roedd 'llygad cath' yn ei ffurf wreiddiol yn cynnwys dau sffer gwydr wedi'u gosod mewn casyn, a rheini sy'n cael eu defnyddio i farcio canol y ffordd, gyda phar o lygaid cath yn wynebu bob cyfeiriad. Mae llygaid cath yn arbennig o wethfawr mewn niwl ac maent yn gallu gwrthsefyll difrod gan erydr eira.

Mae llygaid cath yn cael eu defnyddio trwy'r byd erbyn hyn.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "The day Percy saw the light!". Halifax Today. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 March 2004. Cyrchwyd 24 April 2013.
  2. "History". Reflecting Roadstuds Ltd. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 February 2009. Cyrchwyd 24 April 2013.
  3. Reyburn, Ross (26 June 1999). The Birmingham Post. p. 50
  4. The History of British Roadsigns, Department for Transport, 2nd Edition, 1999
  5. British patent 289619 7 April 1927
  6. United States patent 1625905 26 April 1927