Llwybr Arfordirol Môn (Cyfrol)

Oddi ar Wicipedia
Llwybr Arfordirol Môn
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
AwdurSteven Jones
CyhoeddwrGwasg Carreg Gwalch
GwladCymru
IaithCymraeg a Saesneg
Dyddiad cyhoeddi25 Mehefin 2010 Edit this on Wikidata
PwncCelf yng Nghymru
Argaeleddmewn print
ISBN9781845272890
Tudalennau184 Edit this on Wikidata

Llyfr dwyieithog o ddarluniau lliw am Lwybr Arfordirol Môn gan yr arlunydd Steven Jones ganddo ef ei hun yw Llwybr Arfordirol Môn / The Anglesey Coastal Path. Gwasg Carreg Gwalch a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 2010. Yn 2013 roedd y gyfrol mewn print.[1]

Disgrifiad byr[golygu | golygu cod]

Llyfr dwyieithog o ddarluniau lliw gan Steven Jones, yn dilyn 21 taith gerdded ar lwybr arfordir Môn, ynghyd â brasluniau a nodiadau dyddlyfr. Mae Llwybr Arfodirol Môn yn ein tywys ar hyd arfordir ein hynys fwyaf ond, yn wahanol i fwyafrif llyfrau teithio tebyg, lluniau gan yr artist Steven Jones sy’n darlunio’r 21 taith amrywiol.

Arddangosfa gan yr artist yn Oriel Môn fu’r sail i’r llyfr ac er mai’r bwriad gwreiddiol oedd canolbwyntio ar thema hafaidd yn unig, fe’i swynwyd gan hanes yr arfordir a’r golygfeydd amrywiol a phenderfynodd ehangu’r detholiad i gynnig darluniau o amrywiol olygfeydd yr arfordir yn ystod y pedwar tymor.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013