Neidio i'r cynnwys

Llifolau

Oddi ar Wicipedia
Gêm bêl-droed yn cael ei chwarae o dan lifoleuadau.

Golau tanbaid artiffisial gyda phelydr llydan yw llifolau neu llifoleuadau. Maen nhw yn aml yn cael eu defnyddio i oleuo caeau chwarae awyr agored pan fydd digwyddiad chwaraeon yn cael eu cynnal dan amgylchiadau golau isel (gyda'r nos, fel arfer). Mae mathau gyda mwy o ffocws yn cael eu defnyddio ar gyfer goleuo llwyfannau mewn perfformiadau byw fel cyngherddau a dramâu.

Yn haenau uchaf chwaraeon proffesiynol, mae'n ofynnol bod gan stadiwm lifoleuadau fel bod gemau yn gallu cael eu chwarae pan nad yw'n olau dydd. Gall gemau gyda'r hwyr fod yn fwy cyfleus i gefnogwyr sy'n gweithio neu ag ymrwymiadau eraill yn ystod y dydd. Gall rhai meysydd chwaraeon sydd heb lifoleuadau parhaol ddefnyddio rhai cludadwy a thros dro. Mae gan nifer o'r llifoleuadau mawr nunbont er mwyn newid bylbiau a gwneud gwaith cynnal a chadw. Bydd rhain fel arfer yn gallu dal un neu ddau o bobl.

Polo oedd y chwaraeon cyntaf i gael ei chwarae o dan lifoleuadau, a hynny ar 18 Gorffennad 1878. Cynhaliwyd y gêm yn Fulham, Llundain, Lloegr rhwng y Ranelagh Club a'r Hurlingham Club.[1]

Roedd y gêm bêl-droed rheolau Australaidd ar Faes Criced Melbourne yn 1879 ymhlith y gemau cyntaf gael ei chwarae o dan oleuadau trydan, flwyddyn yn unig ar ôl y gêm gyntaf un (o polo) i gael ei chwarae dan lifoleuadau.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Inglis, Simon (2014). Played in London. Swindon: English Heritage. t. 22. ISBN 978-1-84802-057-3.