Neidio i'r cynnwys

Lleuad orwych

Oddi ar Wicipedia
Lleuad orwych
Mathlleuad lawn Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebmicromoon Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0gh7ht6 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cymhariaeth o ddiamedrau lleuad orwych 19 Mawrth 2011 (dde) a lleuad lawn gyffredin ar 20 Rhagfyr 2010 (chwith)

Lleuad lawn neu leuad newydd sy'n cyd-ddigwydd â pherigê yw lleuad orwych. Dyma'r agosaf y daw y Lleuad i'r Ddaear yn ystod ei gylchdro, gan achosi i ddisg y lleuad ymddangos ychydig yn fwy nag arfer wrth edrych arno o'r Ddaear.[1] Sysygy perigê yw'r enw technegol a roir arno, neu leuad lawn (neu newydd) o amgylch perigê. Term astolegol ei darddiad yw lleuad orwych ac nid oes union ddiffiniad seryddol ar ei gyfer.[2]

O'r 12 neu 13 lleuad lawn (neu newydd) a geir mewn blwyddyn, mae tri neu bedwar fel arfer yn lleuadau gorwych.

Mae'r cysylltiad rhwng y Lleuad a'r llanw wedi arwain rhai i dybio bod lleuad orwych yn gysylltiedig â risg uwch o ddaeargrynfeydd neu ffrwydriadau llosgfynyddol, ond nid oes sail wyddonol i hyn.[3]

Mae'r gwrthwyneb i'r ffenomen hon, sef apoge sysygy neu leuad llawn o amgylch apoge. wedi ei alw'n leuad feicro..[4]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Staff (7 Medi 2014). "Revisiting the Moon". New York Times. Cyrchwyd 8 Medi 2014.
  2. Plait, Phil. "Kryptonite for the supermoon". Bad Astronomy. Discover. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Hydref 2019. Cyrchwyd 29 Awst 2015.
  3. Rice, Rachel. "No Link Between 'Super Moon' and Earthquakes". Discovery News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-06-13. Cyrchwyd 20 Mawrth 2015.
  4. "What Is a Micromoon?". timeanddate.com. Stavanger, Norwy: Time and Date AS. Cyrchwyd 6 Awst 2018.