Cabwci
(Ailgyfeiriad oddi wrth Kabuki)

Nakamura Kanzaburō XVIII, un o deulu o actorion Cabwci sydd yn mynd yn ôl i'r 17g.
Ffurf draddodiadol ar y theatr yn Japan yw Cabwci[1] sydd yn cyfuno cân a dawns mewn modd arddulliedig a chyda llwyfannu a gwisg ysblennydd. Er bod geiriau'r dramâu yn hynod o delynegol, gwerthfawrogir Cabwci fel rheol am ei berfformiadau gweledol a lleisiol yn hytrach na'i lenyddiaeth.[2]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Geiriadur yr Academi, "Kabuki".
- ↑ (Saesneg) Kabuki. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Mehefin 2018.