Isomer
Appearance
(Ailgyfeiriad o Isomeredd)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8f/Structural_isomers.svg/300px-Structural_isomers.svg.png)
Mewn Cemeg, isomerau yw molecylau sydd â'r un fformiwla foleciwlaidd ganddynt ond adeiledd cemegol gwahanol. Hynny yw, mae cyfansoddiad y molecylau'n unfath, ond mae trefniant yr atomau yn wahanol. Mae hyn yn medru achosi molecylau sy'n debyg i'w gilydd o ran fformiwla i gael nifer o briodweddau ffisegol a chemegol gwahanol.