Neidio i'r cynnwys

Ioan Matthews

Oddi ar Wicipedia
Ioan Matthews
Ganwyd1966 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Addysgdoethuriaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethprif weithredwr Edit this on Wikidata

Dr Ioan Matthews (ganwyd 1966) yw Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae'n byw yng Nghaerfyrddin gyda'i wraig, Dr Lowri Lloyd, a'u merch.

Astudiodd Ioan ym Mhrifysgol Cymru Caerdydd lle graddiodd mewn Hanes, cyn sicrhau doethuriaeth ar hanes cymdeithasol y maes glo carreg. Bu'n ddarlithydd yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin am un flynedd ar ddeg, ac yn bennaeth yr Ysgol Hanes yno rhwng 1999 a 2002. Wedi hynny, bu’n gweithio ar lefel genedlaethol yn hybu addysg cyfrwng Cymraeg, i ddechrau ym Mhrifysgol Cymru ac wedyn yn y Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg (a ddatblygodd i fod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2011).[1] Bu'n Brif Weithredwr ar y Coleg Cymraeg oddi ar ei sefydlu yn 2011.[2]

Cyfeiriadau

  1. Cyhoeddiadau/Rhaglen IALC 2017 - Terfynol (Single pages).pdf Comisiynydd y Gymraeg[dolen farw], ad-alwyd 31.07.2017.
  2. "Dathlu'r Deg: Hanes degawd cyntaf y Coleg Cymraeg Cenedlaethol". Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cyrchwyd 11 Mehefin 2025.