Idea Vilariño

Oddi ar Wicipedia
Idea Vilariño
GanwydIdea Vilariño Romani Edit this on Wikidata
18 Awst 1920 Edit this on Wikidata
Montevideo Edit this on Wikidata
Bu farw28 Ebrill 2009 Edit this on Wikidata
Montevideo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethWrwgwái Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfieithydd, ysgrifennwr, athro cadeiriol, bardd, ysgolhaig llenyddol, cyfansoddwr, llenor dysgedig Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Universidad de la República Edit this on Wikidata
MudiadLa Generación del 45 Edit this on Wikidata
TadLeandro Vilariño Edit this on Wikidata
Gwobr/auPremio José Lezama Lima, Gwobr Konex Edit this on Wikidata

Bardd a beirniad llenyddol o Wrwgwái yn yr iaith Sbaeneg oedd Idea Vilariño (18 Awst 192028 Ebrill 2009). Roedd yn un o lenorion La Generación del 45.

Ganwyd ym Montevideo, prifddinas Wrwgwái. Addysgodd lenyddiaeth yn ysgolion uwchradd Montevideo o 1952 nes i'r unbennaeth sifil-filwrol gipio grym ym 1973. Wedi diwedd yr unbennaeth honno, daeth Vilariño yn athrawes llên Wrwgwái ym Mhrifysgol y Weriniaeth ym 1985.[1]

Ymhlith ei chyfrolau o farddoniaeth mae La suplicante (1945), Cielo, cielo (1947), Paraíso per dido (1949), Nocturnos (1955), Poemas de amor (1957), Pobre mundo (1966), Treinta poemas (1967), Poesía (1970), Segunda antología (1980), a No (1980). Derbyniodd Wobr Gwaith Deallusol José Enrique Rodó oddi ar lywodraeth ddinesig Montevideo ym 1987, a Gwobr Lenyddol Konex yn 2004.[2]

Ysgrifennodd lyfrau am farddoniaeth Julio Herrera y Reissig (1950) ac Antonio Machado (1951), ac astudiaeth o eiriau caneuon tango, Las letras de tango (1965). Cyhoeddwyd ysgrifau ac erthyglau beirniadol ganddi yn y cylchgronau Clinamen, Asir, Hiperión, Marcha, Puente, Carte Segrete, Texto Crítico, La Opinión, Revista del Sur, a Brecha. Bu hefyd yn cyfieithu gwaith William Shakespeare i'r Sbaeneg.[2]

Bu farw yn yr ysbyty ym Montevideo yn 89 oed.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Sbaeneg) "Muere la poeta uruguaya Idea Vilariño", El País (28 Ebrill 2009). Adalwyd ar 27 Ebrill 2019.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Magdalena García Pinto, "Vilariño, Idea (1920–)" yn Encyclopedia of Latin American History and Culture (Gale, 2008). Adalwyd ar 27 Ebrill 2019.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Judy Berry-Bravo, Idea Vilariño: Poesía y crítica (Montevideo: Ediciones de la Banda Oriental, 1999).
  • Judy Berry-Bravo, Texts and Contexts of Idea Vilariño's Poetry (Efrog Newydd: Spanish Literature Publications Co., 1994).
  • Susana Crelis Secco, Idea Vilariño: Poesía e identidad (Dinas Mecsico: UNAM, 1990).