Ian Lavender
Gwedd
Ian Lavender | |
---|---|
Ganwyd | 16 Chwefror 1946 Birmingham |
Bu farw | 2 Chwefror 2024 Woolpit |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor ffilm, actor llwyfan, actor teledu |
Priod | Suzanne Kerchiss |
Roedd Arthur Ian Lavender (16 Chwefror 1946 – 2 Chwefror 2024) yn actor Seisnig. Roedd e'n fwyaf adnabyddus am ei rol fel Frank Pike yn y gyfres teledu Dad's Army. Cafodd Lavender ei eni yn Birmingham. [1] Cafodd ei addysg yn yr Ysgol Dechnegol Bechgyn Bournville, lle ymddangosodd mewn llawer o gynyrchiadau dramatig ysgol. Aeth i'r Ysgol Theatr Old Vic Bryste, gyda chymorth o Ddinas Birmingham. [2] Priododd â Suzanne Kerchiss. Bu iddynt ddau fab, ond ysgarasant yn ddiweddarach. Wedyn priododd â Miki (Michele) Hardy.[3]
Ymddangosodd Lavender hefyd yn yr opera sebon Eastenders o 2001 hyd 2016, gan chwarae rhan Derek Harkinson.[4]
Bu farw Lavender yn 77 oed, ar ôl goroesi canser a thrawiad ar y galon.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ GRO Register of Births: MAR 1946 6d 813 BIRMINGHAM – Arthur I. Lavender, mmn = Johnson
- ↑ "Ian Lavender". The Bolton News (yn Saesneg). 8 Mawrth 2002. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Gorffennaf 2020. Cyrchwyd 28 Gorffennaf 2020.
- ↑ 3.0 3.1 Kevin Rawlinson (5 Chwefror 2024). "Dad's Army actor Ian Lavender dies aged 77". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 6 Chwefror 2024.
- ↑ "Yr actor Ian Lavender wedi marw yn 77 oed". Newyddion S4C. Cyrchwyd 6 Chwefror 2024.