Iaith tagio

Oddi ar Wicipedia
Enghraifft o iaith tagio Wicipedia. Mae'r golofn ar y chwith yn cynnwys y tagiau hyn a'r golofn ar y dde yn dangos yr hyn a welir ar y rhyngwyneb. Ceir nifer o ieithoedd tagio sydd wedi'i seilio ar XML ac yn aml, gellir eu newid i HTML, PDF ac RTF gan ddefnyddio iaith rhaglennu neu XSL.

Mewn prosesu testun cyfrifiadurol, mae iaith tagio (ar lafar: markup language) yn system ar gyfer anodi dogfen mewn modd hollol wahanol i gystrawen y testun sy'n weladwy i'r defnyddiwr (h.y. ar y rhyngwyneb). Datblygodd y syniad a'r derminoleg hyn wrth i bobl "farcio i fyny" o lawysgrifau papur, hy yn hytrach nag ysgrifennu'r cyfarwyddiadau gyda phensil glas ar lawysgrifau awduron, fel a wnaed yn draddodiadol, dechreuodd golygyddion ddefnyddio tagiau. Felly, yn y cyfryngau digidol, disodlwyd y cyfarwyddyd glas ar ochr y ddalen gan dagiau digidol." Fodd bynnag, holl bwrpas iaith tagio yw osgoi gwaith fformatio ar gyfer y testun, gan mai pwrpas y tagiau yn yr iaith farcio yw fformatio'r testun priodol (e.e. pennawd neu ddechrau paragraff ac ati). Mae gan bob tag a ddefnyddir eiddo god cysylltiedig sy'n fformatio'r testun a gaiff ei ysgrifennu.

Mae'r enghreifftiau o ieithoedd tagio'n cynnwys cyfarwyddiadau teiposod megis y rhai a geir yn troff, TeX a LaTeX, neu farciau strwythurol megis tagiau XML. Gwaith yr iaith tagio, mewn gwirionedd, yw rhoi set o gyfarwyddiadau i'r feddalwedd sy'n arddangos y testun, ond sy'n anweladwy i'r defnyddiwr terfynol (h.y. e person sy'n darllen y gwaith ar y rhyngwyneb cyhoeddus).

Mae rhai ieithoedd tagio'n cynnwys cystrawen a ddiffiniwyd ymlaen llaw e.e. HTML, ond mae ieithoedd eraill yn fwy cyffredinol eu pwrpas (e.e. XML), ac wedi hepgor hyn.

Rhai nodweddion[golygu | golygu cod]

Un o'r nodweddion mwyaf cyffredin iaith tagio yw ei bod yn cymysgu testun gweladwy'r ddogfen gyda tagiau, a hynny o fewn yr un ffeil, neu lif ddata; gelwir hyn yn "dagio inline". Nid yw hyn yn angenrheidiol, fodd bynnag, a gellir cadw'r ddau ar wahân. Gelwir hyn yn "standoff markup". Dyma'r enghraifft o'r math cyntaf, tagio cymysg (mewn HTML):

<!DOCTYPE html>
<html>
  <head>
    <meta charset="utf-8">
    <title>Anatidae</title>
  </head>
<h1>Anatidae</h1>
  <body>
    <p>
      Mae'r teulu <i>Anatidae</i> yn cynnwys chwiaid, gwyddau ac elyrch,
      ond <em>nid</em> gwylanod.
    </p>
  </body>
</html>


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]