Hyperloop

Oddi ar Wicipedia
Hyperloop
Mathcludiant Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Hyperloop (Cymreigiad: hyperddolen) yn system drafnidiaeth gyflym arfaethedig ar gyfer y cyhoedd a chludo nwyddau. Cyhoeddwyd y syniad gyntaf gan y dyfeisydd Elon Musk mewn papur gwyn a ryddhawyd yn 2013, lle disgrifiwyd yr Hyperloop fel prosiect cludo a fyddai'n cynnwys capsiwlau a gefnogir gan aer-berynnau (air-bearings) mewn amgylchedd pwysedd-isel y tu mewn i diwb.[1] Mae gan systemau hyperloop dair elfen hanfodol: y tiwb ei hun, codennau sy'n gwibio o fewn y tiwb a therfynellau, sef math o orsafoedd.

Dyluniad o gapsiwl neu goden Hyperddolen: Cywasgydd echelinol ar y blaen, adran teithwyr yn y canol, adran batri yn y cefn, a sgïau caster aer ar y gwaelod
Braslun 3D o seilwaith Hyperloop posibl. Mae'r tiwbiau dur wedi'u rendro'n dryloyw yn y ddelwedd hon.

Mae'r tiwb yn system pwysedd-isel (gwactod neu faciwm) enfawr, wedi'i selio ac ar ffurf twnnel hir. Mae'r pod neu goden yn gerbyd dan bwysau atmosfferig yn profi gwrthiant neu ffrithiant aer isel y tu mewn i'r tiwb[2] ac yn teithio dan yriant magnetig. Mae'r derfynell yn fan cychwyn ac yn fan gorffen y daith. Mae'r Hyperloop, yn y ffurf gychwynnol a gynigiwyd gan Musk, yn wahanol i vactrains gan eu bod yn dibynnu ar bwysedd aer gweddilliol y tu mewn i'r tiwb a fyddai'n codi'r goden gyda chymorth aeroffoils a gyriad gan wyntyll; ond mae llawer o'r amrywiadau dilynol yn debyg iawn i'r vagtrains traddodiadol.

Cafodd Hyperloop ei awgrymu gan Elon Musk yn 2012, a ddisgrifiwyd ganddo fel "y pumed dull o deithio".[3] Hyrwyddodd Musk y cysyniad ymhellach trwy gyhoeddi papur gwyn yn Awst 2013, papur a greodd am lwybr Hyperloop yn llifo o Los Angeles i Fae San Francisco, gan fwy neu lai dilyn coridor yr Interstate 5. Roedd y cysyniad cychwynnol yn cynnwys tiwbiau gyda llai o bwysedd, lle mae capsiwlau neu gerbydau dan bwysau'n symud ar berynnau aer (air bearings) sy'n cael eu gyrru gan foduron llinol a chywasgwyr echelinol. Heriodd rhai dadansoddwyr trafnidiaeth yr amcangyfrifon cost a gynhwyswyd yn y papur gwyn, gyda rhai yn rhagweld y byddai Hyperloop gorwario dros biliwn o ddoleri i'w gwireddu.

Yn 2023, rhyddhaodd y Pwyllgor Ewropeaidd ar gyfer Safoni Electrodechnegol y safon dechnegol gyntaf ar gyfer systemau hyperddolen.[4]

Theori a gweithredu[golygu | golygu cod]

Mae'r cysyniad o vactrain (Cymreigiad: gwacdren) yn debyg i system reilffordd gyflym mewn gwactod (faciwm), heb wrthiant aer sylweddol trwy ddefnyddio trenau sy'n codi mewn modd magnetig. Fodd bynnag, mae'r anhawster o gynnal gwactod dros bellteroedd mawr wedi atal y math hwn o system rhag cael ei hadeiladu hyd yma. Mewn cyferbyniad, mae Hyperloop yn gweithredu ar oddeutu 1 milibar (100 Pa) o bwysau ac mae angen yr aer i'r goden godi.

Mae nifer o lwybrau wedi'u cynnig ar gyfer systemau hyperddolen sy'n bodloni'r amodau pellter posib (pellteroedd o lai na tua 1,500 km (930 milltir).[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "The Hyperloop Is Hyper Old". IEEE Spectrum (yn Saesneg). 2021-11-26. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 November 2021. Cyrchwyd 2021-11-28.
  2. Opgenoord, Max M. J. "How does the aerodynamic design implement in hyperloop concept?". Mechanical Engineering. MIT - Massachusetts Institute of Technology. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 October 2019. Cyrchwyd 16 September 2019.
  3. "Pando Monthly presents a fireside chat with Elon Musk". pando.com. PandoDaily. 13 July 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 July 2017. Cyrchwyd 15 July 2017.
  4. "CEN/CLC/JTC 20 - Hyperloop systems". CENELEC. 2023-01-18. Cyrchwyd 2023-09-26.
  5. Ranger, Steve. "What is Hyperloop? Everything you need to know about the race for super-fast travel". ZDNet (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 October 2020. Cyrchwyd 18 April 2020.