Hydoddedd
Gwedd
Hydoddedd yw màs yr hydoddyn sy'n medru hydoddi. Gall hydoddiant ond dal mas penodol o solid; os ychwanegir unrhyw fas yn fwy na hyn, fe fydd yr hydoddiant yn ddirlawn ac ni fydd rhan yn hydoddi. Hydoddiant dirlawn yw hydoddiant sy'n llawn o solid a ni ellir hydoddi fwy o'r solid.
Hydoddi ïonig
[golygu | golygu cod]Wrth i gyfansoddion ïonig hydoddi, mae yna ddau gam:
- Torri'r ddellten ïonig:
- ΔHdellten yw'r egni sydd angen i dorri'r ddellten ïonig.
- Rhyngweithio â molecylau dŵr:
- ΔH(hyd) yw'r egni hydradiad sef yr egni sy'n cael ei rhyddhau wrth i'r ïonau ryngweithio â'r molecylau dŵr.
ΔH Hydodd = ΔH (hyd) + ΔHdellten
Os yw'r gwerth ΔH(Hydodd) yn <10KJ mol−1 fe fydd yr hydoddyn yn hydawdd.
Os yw'r gwerth ΔH(Hydodd) yn >10KJ mol−1 fe fydd yr hydoddyn yn anhydawdd.