Horrible Histories
Gwedd
| Enghraifft o: | cyfres o lyfrau |
|---|---|
| Awdur | Terry Deary, Peter Hepplewhite |
| Cyhoeddwr | Scholastic Corporation, Salani |
| Gwlad | y Deyrnas Unedig |
| Dyddiad cyhoeddi | 1993 |
| Dechreuwyd | 1993 |
| Daeth i ben | 2013 |
| Genre | llenyddiaeth plant, hanes |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01dd8j |
Mae Horrible Histories yn gyfres llyfrau hanes, a hefyd yn rhaglen deledu ar CBBC. Cyhoeddwyd y llyfrau yn y Deyrnas Unedig gan Scholastic. Bwriad y llyfrau yw i gael plant i ymddiddori mewn hanes trwy ganolbwyntio ar ffeithiau anghyffredin, gwaedlyd neu annymunol. Bu'r gyfres yn hynod lwyddiannus o safbwynt masnachol. Ysgrifennwyd y llyfrau gan Terry Deary, Peter Hepplewhite a Neil Tonge ac fe'u darluniwyd gan Martin Brown, Mike Phillips a Philip Reeve.
Cyhoeddwyd y llyfrau cyntaf yn y gyfres, "The Terrible Tudors" a "The Awesome Egyptians", ym mis Mehefin 1993. Ers hynny mae nifer o'r llyfrau wedi cael eu haddasu i'r Gymraeg.