Homogenu
Mae homogenu yn derm a ddefnyddir mewn nifer o feysydd megis cemeg, gwyddoniaeth amaethyddol, technoleg bwyd, cymdeithaseg a bioleg celloedd. Mae'r term yn cyfeiro at broses sy'n creu cymysgedd sydd yn gyson trwy gydol sylwedd.
Cemeg[golygu | golygu cod y dudalen]
Y broses o gymysgu arddwys dwy wedd sy'n anhydawdd (weithiau gyda ategiad arwynebyddion) er mwyn creu daliant neu emwlsiwn hydawdd.
Technoleg bwyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae prosesu llaeth yn o'r defnyddiau hynaf o homogenu. Caiff llaeth ei homogenu i atal neu oedi gwahaniad naturiol hufen oddi wrth gweddill yr emwlsiwn. Mae'r braster mewn llaeth fel arfer yn gwahanu oddi wrth y dŵr ac yn casglu ar y top. Mae homogenu yn torr'i braster i lawr i feintiau llai, fel nad yw'n gwahanu, gan alluogi i laeth cael ei werthu'n gyflawn, neu gyda 1% neu 2% o fraster ynddi. Cwblheir y broses o homogenu llaeth drwy orfodi'r llaeth drwy dyllau bychain odan wasgedd uchel.