Hock

Oddi ar Wicipedia

Mae Hock yn derm Prydeinig ar gyfer gwin gwyn Almaeneg. Weithiau y mae'n cyfeirio a gwin gwyn o'r rhanbarth Rhine (Riesling), ac weithiau i bob gwin gwyn Almaeneg.[1]

Mae'r enw yn fyr am y gair hynafol "hockamore", o "Hochheimer", sy'n tarddu o'r dref Hochheim am Main yn yr Almaen. Defnyddir y term yn yr 17g yn y lle gyntaf am winoedd gwyn (yn bennaf Riesling) o ardal y Rhein, ond yn yr 18g dechreuwyd defnyddio'r term ar gyfer unrhyw win gwyn a werthir ym Mhrydain o'r Almaen, er mwyn cysylltu ansawdd uchel gwinoedd y Rhein gyda gwinoedd eraill (o ansawdd llau) Almaeneg. Mae'n debygol bod ymweliad y Frenhines Victoria i Hochheim a'i winllannoedd yn 1850 wedi cyfrannu at dwf defnydd y gair "hock". Erbyn hyn roedd gwinoedd o ardal y Rhein yn gwerthu am brisoedd uchel, cywerth â - ac weithiau'n uwch na - y gwinoedd gorau o Bordeaux a Bwrgwyn.[2]

Mae nifer o winllannoedd yn gysylltiedig â Hock, er enghraifft Hochheimer, Rüdesheimer, Marcobrunner a Johannisberger.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Winepros - Oxford Companion to Wine - Entry". web.archive.org. 20 Awst 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-08-20. Cyrchwyd 2 Tachwedd 2019.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  2. "DAILY MENU [held by] BATTLE HOUSE [at] "MOBILE,AL." (HOTEL)". NYPL Digital Collections. Cyrchwyd 2 Tachwedd 2019.