Hen Fenyw Fach Cydweli

Oddi ar Wicipedia

Hwiangerdd draddodiadol Gymraeg yw Hen Fenyw Fach Cydweli. Mae geiriau yn dod o yma.

Hen fenyw fach Cydweli
yn gwerthu losin du,
yn rhifo deg am ddime,
ond unarddeg i mi.
Wel dyma'r newydd gorau ddaeth i mi, i mi,

oedd rhifo deg am ddime,
ond unarddeg i mi.
Ffa la la, ffa la la, ffa la la la la la la.

Mi es i Faes y Croesau,
mi ges i groeso mawr,
afalau wedi'u pobi
a stôl i eistedd i lawr.
Wel dyma'r newydd gorau ddaeth i mi, i mi,
Wel dyma'r newydd gorau ddaeth i mi, i mi,
afalau wedi'u pobi,
a stôl i eistedd i lawr.
Ffa la la, ffa la la, ffa la la la la la la.
Ffa la la, ffa la la, ffa la la la la la la.

Mae gen i fegin newydd
a honno'n llawn o wynt,
mae'r byd yn gwenu arnaf
fel yn y dyddiau gynt.
Wel dyma'r newydd gorau ddaeth i mi, i mi,
Wel dyma'r newydd gorau ddaeth i mi, i mi,
mae'r byd yn gwenu arnaf
fel yn y dyddiau gynt.
Ffa la la, ffa la la, ffa la la la la la la.
Ffa la la, ffa la la, ffa la la la la la la.

"Losin" yn nhafodiaeth y Gogledd yw "fferins" neu "minciag". "Dime" oedd hanner ceiniog.

Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato