Hen Ddelhi

Oddi ar Wicipedia
Hen Ddelhi
Mathold town Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDelhi Edit this on Wikidata
GwladBaner India India
Cyfesurynnau28.66°N 77.23°E Edit this on Wikidata
Map
Golygfa yn y Prif Bazaar yn Hen Ddelhi

Hen Ddelhi (Hindi: पुरानी दिल्ली) (Wrdw: پُرانی دلّیPurānī Dillī), dinas ag iddi fur, yw rhan hynaf Dinas Delhi, India. Cafodd ei sefydlu fel Shahjahanabad (Urdu: شاہجہان آباد) gan yr Ymerawdwr Mughal Shahjahan yn 1639.[1] Roedd yn brifddinas Ymerodraeth y Mughal hyd at ei diwedd.[2][3] Fe'i gelwir yn "Hen Ddeli" mewn cyferbyniaeth â Delhi Newydd, prifddinas swyddogol India.

Codwyd yr Hen Ddinas ym 1639 ar safle dinasoedd cynharach Delhi oedd yn dyddio'n ôl i tua 1500 CC.

O fewn muriau Hen Ddelhi mae nifer o henebion diddorol o gyfnod y Mogẃliaid, gan cynnwys y Gaer Goch (sydd yn ei thro yn cynnwys Palas Ymherodrol Shah Jahan) a'r Jami Masjid (Y Brif Fosg).

Mewn cyferbyniaeth lwyr â rhodfeydd agored Delhi Newydd, mae strydoedd Hen Ddelhi'n gul a phrysur.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. http://www.dawn.com/weekly/dmag/archive/080817/dmag9.htm PAST PRESENT: Shahjahanabad Before 1857 By Mubarak Ali
  2. History of Mughal Architecture By R. Nath, Abhinav Publications, 2006
  3. City of Djinns: A Year in Delhi By William Dalrymple, Olivia Fraser, HarperCollins, 1993
Eginyn erthygl sydd uchod am India. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.