Neidio i'r cynnwys

Hawliau Dynol o fewn y diwydiant mwyngloddio

Oddi ar Wicipedia
Hawliau Dynol o fewn y diwydiant mwyngloddio
Cloddio sylffwr yn Kawah Ijen yn 2015
Enghraifft o'r canlynolhawliau dynol, subjective right, mwyngloddio Edit this on Wikidata

Mae Hawliau Dynol o fewn y diwydiant mwyngloddio yn cynnwys hawliau sifil, gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol. Rhestrwyd yr hawliau hyn yn glir yn Natganiad Cyffredinol o Hawliau 1948 ac a dderbyniwyd gan y rhan fwyaf o lywodraethau, ynghyd â dau Gyfamod a llawer o gonfensiynau ILO. Mae cwmnïau mwyngloddio wedi cael eu beirniadu am gam-drin hawliau dynol pobl a phoblogaethau brodorol sydd mewn perygl.

Erbyn y 2020au roedd cwmnïau mwyngloddio'r byd yn cael eu dwyn i gyfrif am y tro cyntaf, a gwelwyd llysoedd barn, ledled y byd, yn ceisio sicrhau amodau gwaith diogel i'w gweithwyr (mwynwyr a chwarelwyr) a lleihau difrod amgylcheddol er mwyn amddiffyn hawliau gweithwyr a hawliau dynol.[1]

Awgrymodd Amnest Rhyngwladol fod gan gwmnïau mwyngloddio rwymedigaethau i sicrhau nad ydynt yn cydoddef nac yn hyrwyddo torri’r hawliau canlynol gan bartïon eraill:[2]

  • Yr hawl i beidio gwahaniaethu
  • Yr hawl i fywyd a rhyddid
  • Gwahardd caethwasiaeth
  • Gwahardd artaith
  • Yr hawl i ddiogelwch person
  • Yr hawl i breifatrwydd
  • Yr hawl i eiddo
  • Yr hawl i ryddid crefydd
  • Yr hawl i ryddid barn
  • Yr hawl i ryddid i gymdeithasu
  • Yr hawl i amddiffyn safonau llafur
  • Gwahardd ymyrraeth â chwrs llywodraeth a pheidio ag ymyrryd â materion mewnol cyfreithlon neu gysylltiadau rhynglywodraethol y wlad
  • Gwahardd llwgrwobrwyo

Mae hawliau dynol wedi dod yn broblem fawr i gwmnïau mwyngloddio ers canol y 1990au, ac maent bellach wedi'u gorfodi gan bwysau'r cyhoedd a llywodraethau i ystyried sut y gall mwyngloddio gyfrannu at ddatblygu cynaliadwy. Erbyn y 2020au roedd cwmnïau mwyngloddio'n dechrau cydnabod y berthynas newidiol rhwng busnes a chymdeithas, rhwng diwydiant ag ymgyrchwyr newid hinsawdd. Cafwyd mwy a mwy o achosion cyfreithiol, tyfodd cyfreitha newid hinsawdd, gwelwyd mwy a mwy o graffu gan y cyfryngau, a chronfeydd cymdeithasol gyfrifol ar waith y cwmnïau mwyngloddio. Disgwylir y bydd costau yswiriant yn cynyddu'n enbyd i'r cwmnïau hyn, gan na fydd cwmnïau yswiriant am fod yn atebol am weithgareddau anghyfrifol.

Brodorion lleol[golygu | golygu cod]

Ymhlith y prif faterion y mae:

  • Gall diffyg ymgynghori ymlaen llaw gyda'r boblogaethau lleol (brodorion lleol) a diffyg proses i archwilio hyn arwain at ddinistrio hunaniaeth a bywoliaeth o bobl.
  • Symud cymunedau brodorol o diroedd yn dreisgar, yn ormesol gan fygwth bywyd. Weithiau, nid yw'r llywodraeth cyn cydnabod y grwpiau brodorol hyn, na'u hawliau
  • Diffyg trefniadau iawndal
  • Difrod i safleoedd diwylliannol, hanesyddol neu grefyddol y grwpiau lleol a chynhenid.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. www.mining-technology.com; teitl: Human rights and mining wrongs: what do miners still have to do?; adalwyd 11 Mai 2023.
  2. www.iied.org; teitl: Human Rights in the Minerals Industry Simon D. Handelsman; adalwyd 11 Mai 2023.