Harmoni pedwar llais

Oddi ar Wicipedia
Enghreifftiau o gerddoriaeth pedwar llais baróc a gyfansoddwyd gan Johann Sebastian Bach (BWV 269 a BWV 347)

Mae'r term "harmoni pedwar llais" neu "harmoni pedair rhan" yn cyfeirio at gerddoriaeth sydd wedi'i hysgrifennu i bedwar llais neu gyfrwng cerddorol arall—pedwar offeryn cerdd neu allweddell unigol, er enghraifft—ble mae'r gwahanol rannau neu leisiau cerddorol yn rhoi gwahanol nodyn i bob cord o'r gerddoriaeth.

Mae'r pedwar prif lais fel arfer yn cael eu galw yn: soprano,[1] alto (contralto neu uwchdenor), tenor, a bas. Gan fod gan y llais dynol gwmpas lleisiol cyfyngedig, nid yw gwahanol fathau o leisiau yn gallu canu traw sydd y tu hwnt i'w cwmpas penodol.[2]

Mae'r hyn sydd ei angen i berfformio harmoni pedair rhan yn gallu amrywio'n fawr. Gall darn sydd wedi'i ysgrifennu yn y dull hwn fel arfer gael ei berfformio gan un person ar allweddell, grwp o 4 offeryn (neu 4 o gantorion), neu hyd yn oed gôr mawr sy'n cynnwys nifer o gantorion yn canu pob un o'r pedwar llais.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. McKinney, James (1994). The Diagnosis and Correction of Vocal Faults. Genovex Music Group. ISBN 978-1-56593-940-0.
  2. Boldrey, Richard (1994). Guide to Operatic Roles and Arias. Caldwell Publishing Company. ISBN 978-1-877761-64-5.