Hanner ffyrling

Oddi ar Wicipedia
1843 Great Britain Half Farthing Reverse.png
Darn hanner ffyrling o'r flwyddyn 1843

Uned o arian bath yn y bunt sterling oedd hanner ffyrling, hanner ffarding neu hanner ffarddin (1/8d neu un wythfed o geiniog). Yn yr iaith Gymraeg, byddai hefyd yn cael ei alw'n 'hatling' (yn tarddu, mae'n debyg, o'r cyfansoddair Saesneg 'halfling'). Roedd yn cael ei fathu mewn copr i'w ddefnyddio yn nhrefedigaeth Ceylon (sy'n cael ei hadnabod fel Sri Lanca heddiw), a chafodd ei ddatgan yn arian cyfreithlon yng ngwledydd Prydain yn 1842.

Cyn y Diwrnod Degol yn 1971 roedd dau gant pedwar deg o geiniogau mewn punt. Roedd pedair ffyrling mewn ceiniog. Roedd deuddeg ceiniog yn gwneud swllt, ac ugain swllt mewn punt. Roedd gwerthoedd llai na phunt fel arfer yn cael eu hysgrifennu mewn sylltau a cheiniogau e.e. swllt a chwech fyddai pedwar-deg dau ceiniog. Roedd gwerthoedd llai na swllt yn cael eu hysgrifennu mewn ceiniogau, e.e. wyth ceiniog fyddai 8d. Byddai pris oedd yn cynnwys ffyrling ynddo yn cael ei ysgrifennu fel a ganlyn: (19/11 1/4).