Hanes teuluol (meddygaeth)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Ym meddygaeth, gwybodaeth am gyflyrau sydd wedi effeithio ar aelodau teulu biolegol claf yw hanes teuluol, ac mae'n ffurfio rhan hanfodol o hanes meddygol y claf. Gofynnir cwestiynau penodol i'r claf neu'i deulu ynglŷn â iechyd ei berthnasau agosaf i ganfod unrhyw gyflyrau gall y claf fod yn arbennig fregus iddynt, ac fe gymerir sylw arbennig o glefydau etifeddol a theuluol. Nodir oedran a iechyd pob person ac oedran ac achos farwolaeth perthanasau meirw. Gan ddefnyddio'r wybodaeth hyn gall genogram o hanes teuluol gael ei lunio.

Ffynhonnell[golygu | golygu cod y dudalen]

Medistub.svg Eginyn erthygl sydd uchod am feddygaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.