Gwynllŵg

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Gwynllŵg
Math Cantref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Teyrnas Glywysing Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.685°N 3.154°W Edit this on Wikidata

Roedd cantref Gwynllŵg (llurguniad Seisnig : Wentloog) yn un o saith cantref Morgannwg yn ne-ddwyrain Cymru. Roedd yn gorwedd rhwng afonydd Rhymni a Wysg.

Yn wreiddiol bu Gwynllŵg yn rhan o deyrnas Glywysing. Fe'i enwir ar ôl Gwynllyw, sant o'r 5g. Dyma gantref mwyaf dwyreiniol Morgannwg, ar ffurf llain gul o dir rhwng cantref Senghennydd i'r gorllewin a Gwent i'r dwyrain, yn ymestyn o lan Môr Hafren i fyny i droedfryniau Brycheiniog.

Yn ôl y rhestr o gantrefi a chymydau yn Llyfr Coch Hergest, rhennid Gwynllŵg yn bump cwmwd :

  • Cwmwd yr Haidd
  • Cwmwd y Dref Berfedd
  • Cwmwd Edelygion(?)
  • Cwmwd Eithaf
  • Cwmwd y Mynydd

Fodd bynnag mae rhaid trin tystiolaeth rhestr y Llyfr Coch yn ofalus. Cafodd ei lunio ar ddiwedd y 14g ac mae'n adlewyrchu y newidiadau yn nhrefn weinyddol yr ardal a wnaed gan Normaniaid de Cymru.

Canolfannau eglwysig pwysicaf Gwynllŵg yn yr Oesoedd Canol oedd eglwys Gwynllyw a Basaleg, mam-eglwys yr ardal a pherchennog rhan helaeth o'r tir rhwng afon Rhymni ac afon Ebwy.

Mae hanes cynnar Gwynllŵg yn dywyll ond ceir sawl chwedl a thraddodiad amdani. O'r gair Gwynllyw y daw enw'r cantref hwn; roedd ganddi ferch o'r enw Maches a cheir pentref wedi'i enwi ar ei hôl hithau sef Llanfaches. Gweler hefyd Llanfachraeth ym Môn.[1]

Arglwyddiaeth Normanaidd[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn fuan ar ôl y flwyddyn 1090, daeth yn rhan o dir y Normaniad Robert fitz Hamo, fel Arglwydd Morgannwg. Daethpwyd i'w galw yn Strigoil neu "Arglwyddiaeth Cas-gwent". Daeth iseldir y cantref yn ardal drwm dan ddylanwad Normanaidd, ond arosodd yr ucheldir, yn arbennig arglwyddiaeth Machen, yn Gymreig iawn dan arglwyddi Cymreig lleol. O 1347 ymlaen bu'n un o diroedd y teulu Stafford. Pan ddienyddwyd Edward Stafford, Dug Buckingham, yn 1521 meddianwyd Gwynllŵg gan Goron Loegr ac yn 1542 daeth yn rhan o'r Sir Fynwy newydd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Dictionary of the Place-names of Wales gan Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Gwasg Gomer, 2008.
  • R. R. Davies, Conquest, coexistence and change, Wales 1063-1415 (Rhydychen, 1987)
  • J. E. Lloyd, A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, 3ydd arg., 1937)