Gwthfwrdd
Gêm yw gwthfwrdd ble mae chwaraewyr yn gwthio disgiau pwysedig fel eu bod llithro i lawr cwrt cul gyda'r nod o'u cael i aros o fewn i ardal sgorio benodol. Mewn gwthfwrdd llawr, mae ciwiau yn cael eu defnyddio i wthio'r disgiau neu gnapiau, ond ceir math hefyd sy'n cael ei chwarae ar ben bwrdd gyda'r cnapiau yn cael eu gwthio â llaw.
Nid yw hanes cyflawn gwthfwrdd yn hysbys. Er bod peth gwybodaeth am ei ddatblygiad, mae'r tro cyntaf iddo gael ei chwarae, y lleoliad a'r dyddiad, yn ddirgelwch. Yn sicr, o Ewrop y tarddodd ac mae ei hanes yn ymestyn yn ôl dros o leiaf 500 o flynyddoedd.
Gwyddom hefyd bod y gwthfwrdd wedi'i chwarae tan Frenin Harri VIII o Loegr a'i fod wedi gwahardd y werin bobl rhag ei chwarae. Ceir cofnod yn y treuliau brenhinol ar gyfer 1532 bod £9 wedi'i dalu i 'Lord William' am ennill gêm o 'shovelboard'.
O ran ei amcanion, ei ffurf a'i offer, mae gwthfwrdd yn rhannu nifer o nodweddion â gemau eraill, gan gynnwys hoci aer, bowliau, cwrlo, croce, coets a biliards.