Neidio i'r cynnwys

Gweithdrefnau Cyngres yr Unol Daleithiau

Oddi ar Wicipedia

Mae Gweithdrefnau Cyngres yr Unol Daleithiau yn ddulliau sefydlog o wneud busnes deddfwriaethol. Mae gan y Gyngres dymhorau sy'n para am ddwy flynedd gydag un sesiwn bob blwyddyn. Mae rheolau a gweithdrefnau'r Gyngres, sy'n aml yn gymhleth, yn llywio sut mae syniadau am ddeddfwriaeth yn cael eu gwneud yn gyfraith.

Sut y gwneir deddfwriaeth ffederal yr Unol Daleithiau.[1]

Sesiynau[golygu | golygu cod]

Gwahanir tymor y Gyngres i mewn i ddau "sesiwn", un bob blwyddyn; yn achlysurol, er ei bod yn bosib galw sesiwn ychwanegol (neu arbennig) y Gyngres, (yn ôl y cyfansoddiad mae'r Gyngres yn gorfod cwrdd o leiaf unwaith y flwyddyn). Mae sesiwn newydd yn dechrau ar 3ydd Ionawr (neu ddyddiad arall, yn unol â dymuniad y Gyngres) bob blwyddyn. Cyn dyfodiad yr Ugeinfed Gwelliant, bu'r Gyngres yn cwrdd o ddydd Llun cyntaf mis Rhagfyr i fis Ebrill neu fis Mai yn sesiwn cyntaf eu tymor (y "sesiwn hir"); ac o'r mis Rhagfyr i 4ydd Mawrth yn yr ail "sesiwn byr". Wedyn, byddai'r Gyngres newydd yn cwrdd am rai dyddiau, ar gyfer yr arwisgiad, aelodau newydd yn tyngu llw, a threfniadaeth.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. “How Our Laws Are Made” infographig gan Mike Wirth a Dr. Suzanne Cooper-Guasco ar gyfer Sunlight Foundation “Design for America Competition” 2010, ffynhonnell: “How Our Laws Are Made” Archifwyd 2008-08-21 yn y Peiriant Wayback. gan John V. Sullivan (Rev. 6.24.07 thomas.loc.gov) a What is a Lobbyist? - wiseGEEK and Reconciliation in the Senate - Brookings Institution Archifwyd 2012-01-18 yn y Peiriant Wayback..