Gwarchae Beograd (1521)

Oddi ar Wicipedia

Gwarchae ar gastell Beograd gan fyddin yr Ymerodraeth Otomanaidd oedd Gwarchae Beograd (1521) a barodd o Orffennaf i 29 Awst 1521, yn ystod goresgyniad Serbia, a oedd ar y pryd o fewn ffiniau Teyrnas Hwngari. Fe'i gelwir yn Drydydd Gwarchae Beograd am iddo ddilyn gwarchaeau aflwyddiannus gan yr Otomaniaid ym 1440 a 1456, neu Gwymp Beograd o ganlyniad i lwyddiant y gwarchae.

Goresgyniad Serbia oedd ymgyrch filwrol gyntaf Swleiman I, Swltan yr Ymerodraeth Otomanaidd ers marwolaeth ei dad Selim I ym Medi 1520. Yn ôl arfer ddiplomyddol Caergystennin, darfu cytundeb rhyngwladol yr un eiliad â'r swltan a gytunodd iddo, ac felly daeth yr heddwch a gytunwyd rhwng yr Ymerodraeth Otomanaidd a Theyrnas Hwngari ym Mawrth 1519 i ben.[1] Derbyniwyd Behram, llysgennad o Gaergystennin, i lys y Brenin Lajos II yn Buda yn Rhagfyr 1520, ond yn Ionawr cafodd ei arestio a'i garcharu gan lywodraeth Hwngari, gan roi i'r swltan esgus dros ailgychwyn rhyfel rhwng y ddwy wladwriaeth. Mewn gwirionedd, penderfynodd Swleiman oresgyn deheubarth Hwngari cyn i'r newyddion am garchariad Behram gyrraedd Caergystennin.[2] Yr oedd Beograd yn un o brif ddinasoedd Teyrnas Hwngari ac yn safle strategol hynod o bwysig yn y Balcanau, ac felly yn nod ddymunol os oedd y swltan am sicrhau ei dra-arglwyddiaeth yn Ne Ddwyrain Ewrop ac herio'r Gristionogaeth yn filwrol.

Cyrhaeddodd y lluoedd cyntaf o Otomaniaid gyrion Beograd ar 3 Gorffennaf 1521, a dechreuasant wersyllu a pharatoi i warchae. Tua'r un amser, llwyddodd byddin dan arweiniad Ahmed Pasha i gipio caer Šabac trwy gyrch, wedi gwarchae a barodd ond am ychydig o ddiwrnodau.[3] Adeg y goresgyniad, yr oedd y ddau gadlywydd yn Beograd wedi ymadael y garsiwn i deithio i Buda er mwyn erfyn ar lys y Brenin Lajos am daliadau gorddyledus. Yn eu habsenoldeb, bu anghytundeb rhwng y catrodau Serbaidd ac Hwngaraidd yn y castell, ac o ganlyniad trodd un o'r dirpwy lywodraethwyr yn Beograd yn wrthgiliwr ac ymunodd â'r gwersyll Otomanaidd ar gyrion y ddinas.[4]

Wedi deufis, dygwyd cyrch ar y gaer gan y fyddin Otomanaidd i ddod â'r gwarchae i derfyn. I nodi'r fuddugoliaeth hon, cyhoeddodd y Swltan Swleiman (26 oed) ei fod yn ŵr llawn oed drwy dyfu ei farf.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Tamás Pálosfalvi, From Nicopolis to Mohács: A History of Ottoman-Hungarian Warfare, 1389–1526 (Leiden: Brill, 2018), t. 374.
  2. Pálosfalvi, From Nicopolis to Mohács (2018), t. 375.
  3. Pálosfalvi, From Nicopolis to Mohács (2018), t. 380.
  4. 4.0 4.1 Barnaby Rogerson, The Last Crusaders: The Hundred-Year Battle for the Centre of the World (Llundain: Little, Brown, 2009),tt. 260–61.