Gwaith Gruffudd ap Maredudd 1 - Canu i Deulu Penmynydd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cyfres Beirdd yr Uchelwyr Gwaith Gruffudd Ap Maredudd 1 - Canu i Deulu Penmynydd (llyfr).jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
GolygyddBarry J. Lewis
CyhoeddwrCanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1 Medi 2003 Edit this on Wikidata
PwncAstudiaethau Llenyddol
Argaeleddmewn print
ISBN9780947531270
Tudalennau185 Edit this on Wikidata
GenreLlenyddiaeth Gymraeg
CyfresCyfres Beirdd yr Uchelwyr

Llyfr ac astudiaeth lenyddol, Gymraeg gan Barry J. Lewis (Golygydd) yw Gwaith Gruffudd Ap Maredudd I: Canu i Deulu Penmynydd. Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 2003. Yn 2013 roedd y gyfrol mewn print.[1]

Disgrifiad byr[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r gyfrol hon yn olygiad o waith Gruffudd ap Maredudd (bl.1366-82), yn cynnwys rhagymadrodd llawn gwybodaeth am ei fywyd a'i waith, ynghyd â manylion am deulu Tuduriaid Penmynydd, Môn y canodd iddynt. Ceir yma aralleiriad o wyth testun, nodiadau manwl a geirfa ddefnyddiol.

Rhan o adolygiad ar Gwales[golygu | golygu cod y dudalen]

gan Margaret Bowen
Ceir rhagymadrodd ar y dechrau sy'n trafod agweddau o waith y bardd, ei gefndir a'i ddyddiadau. Trafodir ei noddwyr a noddai nifer o feirdd, Iolo Goch a Llywelyn Goch ap Meurig Hen yn eu plith, yn eu llysoedd a chartrefi ar Ynys Môn. Serch hynny, nid oes trafodaeth ar grefftwaith y bardd a'i ddefnydd o ddelweddau a throsiadau, er enghraifft, yn yr adran hon. Â ymlaen i gyhoeddi'r wyth cerdd yn eu cyfanrwydd ac, yn dilyn hynny, ceir nodiadau helaeth ar y cerddi.

Dengys y golygydd bod y bardd yn moli ei noddwyr yn y ffordd draddodiadol, er enghraifft ym marwnad Hywel ap Goronwy, archddiacon Môn, disgrifir y gwrthrych â'r geiriau arwrol arferol a chanolbwyntir ar ei haelioni a'i letygarwch. Yn yr awdl foliant a'r farwnad i Dudur Fychan ap Goronwy, brawd gwrthrych y gerdd gyntaf, ceir disgrifiad o'i gampau ar faes y gad a delweddau traddodiadol o fyd anifeiliaid sy'n cyfleu eu safle fel noddwr delfrydol. Ceir delweddau tebyg yn y cerddi i'w fab Goronwy Fychan ap Tudur, er bod y gyfres o englynion yn rhif 5 yn canolbwyntio mwy ar ei salwch. Mae'r gerdd i'r noddwr anhysbys hefyd yn dilyn yr un confensiynau.

Mae'r nodiadau ar eiriau ac ymadroddion anghyfarwydd yn swmpus ac yn ein cynorthwyo i ddwyn goleuni ar y cerddi hyn o'r 14g. Mae'r golygydd yn tynnu ein sylw yn y rhagymadrodd at sylwadau Saunders Lewis yn ei lyfr Braslun o Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1536 lle mae'n disgrifio Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd fel 'un o'r mawrion'. Edrychaf ymlaen felly at ddarllen gyfrolau eraill o waith y bardd hwn sy'n cynnwys cerddi crefyddol a pheth canu serch a chanu dychan. Bydd yn gyfle i werthfawrogi ymhellach waith bardd a ganai ar ddiwedd cyfnod Beirdd y Tywysogion a dechrau cyfnod newydd a chyffrous Beirdd yr Uchelwyr.


Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013