Gwaith Cannu Lleweni

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Gwaith Cannu, Lleweni

Roedd Gwaith Cannu Lleweni yn weithdy cemegol anferth a adeiladwyd gan y Gwir Anrhydeddus Thomas Fitzmaurice ar ystâd Lleweni ym 1780. Roedd yn cannu llain frown a gynhyrchwyd gan wehyddion ar ei ystadau yn yr Iwerddon[1].

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1776 gwerthwyd ystâd Lleweni i’r Anrhydeddus Thomas Fitzmaurice, bonheddwr Gwyddelig, a brawd i’r Brif Weinidog Prydeinig William Petty, 2il Iarll Shelburne.

Ym 1749 anogodd tad Fitzmaurice, Iarll cyntaf Shelburn, i nifer o bobl i ymsefydlu ar ei ystâd yn Ballymote i weithio fel mân ddeiliaid a gwehyddion[2].

Wedi etifeddu rhan o’r ystâd ar farwolaeth ei dad newidiodd Fitzmaurice cytundeb ei denantiaid. Roeddynt i barhau i wae, a’u cynnyrch fel gwehyddion byddai eu rhent. Eu tâl am eu gwaith byddai bwthyn yn gartref, digon o dir i dyfu tatws i’r teulu ac i dyfu gwair digonol i fagu un fuwch. Roedd Fitzmaurice yn credu byddai’i drefn yn rhoi i denant ‘’modd o gynhaliaeth i'w deulu heb ganiatáu i’w amser a’i meddyliau tynnu sylw o'i brif fusnes, o orfod poeni am fod yn ffermwr bychan ar fan daliad, yn ogystal â bod yn wehydd’’.

Gwaith cannu Lleweni[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1780 adeiladodd Fitzmaurice ffatri gemegol ar ystâd Lleweni er mwyn cannu’r llain a gynhyrchwyd gan ei denantiaid Gwyddelig ar gost o £20,000. Ni fu’r fenter yn llwyddiant, a chaewyd a dymchwelwyd y gwaith cyn 1818[3].

An Gorta Mór[golygu | golygu cod y dudalen]

Fitzmaurice oedd y cyntaf i gyflwyno’r drefn o roi llain i dyfu tatws fel “tâl” i weithwyr gwledig yr Iwerddon, tra bod gweddill eu cynnyrch yn cael ei allforio i Loegr fel “rhent” at fudd masnachol y tirfeddiannwr. Pan fu’r cnwd tatws methu rhwng 1845 a 1849 bu oddeutu miliwn o bobl farw o newyn neu o glefydau a achoswyd gan newyn, a gorfodwyd nifer fawr o bobl yr ynys i ymfudo. Amcangyfrifir i boblogaeth Iwerddon ostwng o tua 20% hyd 25% rhwng 1845 a 1852 o ganlyniad[4].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "HISTORY OF LLEWENI HALL". Cyrchwyd 21 Medi 2017.
  2. "A Topographical Dictionary of Ireland Samuel Lewis, tud 566". Cyrchwyd 20 Medi 2017.
  3. "Lleweney bleach works belonging to the late Honble. Thos. Fitzmaurice". British Museum. Cyrchwyd 20 Medi 2017.
  4. Woodham-Smith, Cecil (1991). The Great Hunger, 1845-49. Penguin.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: