Guadalupe Marín
Guadalupe Marín | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Mariana Guadalupe Marín Preciado ![]() 16 Hydref 1895 ![]() Jalisco ![]() |
Bu farw | 7 Chwefror 1983 ![]() Dinas Mecsico ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | llenor, model, nofelydd ![]() |
Priod | Diego Rivera, Jorge Cuesta ![]() |
Plant | Guadalupe Rivera Marín, Ruth Rivera Marín ![]() |
Awdures a model o Fecsico oedd Guadalupe "Lupe" Marín (16 Hydref 1895 - 7 Chwefror 1983).[1]
Fe'i ganed yn Jalisco, Mecsico ar 16 Hydref 1895 a bu farw yn Ninas Mecsico. Yn 8 oed symudodd y teulu i Guadalajara. Bu'n briod i'r arlunydd Diego Rivera am gyfnod o chwe mlynedd ac roedd Ruth a Guadalupe Rivera Marín yn blant iddi.[2][3][4]
Ar 9fed o Dachwedd yn yr un flwyddyn (1928) priododd y bardd Jorge Cuesta, gan ysgaru ar 13 Ebrill 1933. Cafodd un mab o'i hail briodas, Lucio Antonio Cuesta-Marín, a aned yn 1930.[5][6]
Yn 1938, cyhoeddwyd nofel lled-hunangofiannol Marín, La Única (Y Ferch Unigryw). Gwaharddwyd La Única ym Mecsico am flynyddoedd lawer oherwydd ei natur erotig.[1] Yn 2003, dyfynnwyd y nofel a Marín gan yr awdur Salvador A. Oropesa yn ei lyfr The Contemporáneos Group fel un o elfennau ffeministaidd mudiad awduron gwrth-ddiwylliant yn y Mecsico ôl-chwyldroadol. Ysgrifennodd Un día patrio hefyd yn 1941, lle mynegodd ei syniadau gwleidyddol.[1][7]
Aelodaeth
[golygu | golygu cod]Bu'n aelod o Academi Gwyddorau Mecsico am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Guadalupe Marin, controvertida musa, novelista y primera esposa de Diego Rivera". MXCity (yn Sbaeneg). 2016-08-29. Cyrchwyd 2019-01-23.
- ↑ Kettenmann, Andrea (2003). Rivera, p. 24. TASCHEN GmbH.
- ↑ Jinich, Pati (2014). "Diego Rivera's daughter on her father's favorite foods — and Frida Kahlo's parties". The Washington Post. Cyrchwyd 2019-01-23.
- ↑ Russell, Ron (2003-12-17). "Secret Rivera". SF Weekly (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-01-24. Cyrchwyd 2019-01-23.
- ↑ Ahrens, Jan Martínez (2015-10-02). "Lupe, Frida y Diego: los años locos". El País (yn Sbaeneg). ISSN 1134-6582. Cyrchwyd 2019-01-23.
- ↑ "Dos veces Cuesta | Confabulario | Suplemento cultural" (yn Sbaeneg). Cyrchwyd 2019-01-23.
- ↑ Oropesa, Salvador A. (2003). The Contemporáneos Group: Rewriting Mexico in the Thirties and Forties, t. 100. University of Texas Press.