Graddfa Garthion Bryste

Oddi ar Wicipedia
Graddfa Garthion Bryste
Enghraifft o'r canlynolmedical scale Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cymorth meddygol a gynlluniwyd i ddosbarthu ffurfiau carthion mewn saith gwahanol categori yw Graddfa Garthion Bryste. Weithiau yn y Deyrnas Unedig fe'i gelwir "Graddfa Meyers" (saes. "Meyers Scale"). Datblygwyd y raddfa gan Heaton ym Mhrifysgol Bryste ac fe'i chyhoeddwyd yn y Scandinavian Journal of Gastroenterology ym 1997.[1] Mae ffurf y carthion yn dibynnu yn fawr iawn ar yr amser a dreuliant yn y coluddyn mawr.

Dyma'r saith gwahanol math o garthion:

  • Math 1: Lympiau caled, ar wahân (fel cnau)
  • Math 2: Siâp selsigen, ond yn gnapiog
  • Math 3: Fel selsigen ond gyda chraciau ar yr arwyneb
  • Math 4: Fel selsigen neu neidr, meddal a llyfn
  • Math 5: Smotiau meddal gydag ymylon hollol glir
  • Math 6: Darnau blewog gydag ymylon bratiog, carthion stwnsh
  • Math 7: Dyfrllyd, dim darnau solet

Dynoda mathau 1 a 2 rwymedd, ystyrir mathau 3 a 4 yn "garthion delfrydol", ac mae mathau 5–7 yn awgrymu dolur rhydd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Lewis SJ, Heaton KW (1997). Stool form scale as a useful guide to intestinal transit time, Cyfrol 32, Rhifyn 9. Scand. J. Gastroenterol., tud. 920–924. DOI:10.3109/00365529709011203