Gorsaf reilffordd Nottingham
Math | gorsaf reilffordd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Nottingham |
Agoriad swyddogol | 1904 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas Nottingham |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 52.947°N 1.146°W |
Cod OS | SK575392 |
Rheilffordd | |
Nifer y platfformau | 7 |
Côd yr orsaf | NOT |
Rheolir gan | East Midlands Trains |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Edwardaidd |
Perchnogaeth | Network Rail |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II* |
Manylion | |
Mae gorsaf reilffordd Nottingham yn orsaf reilffordd sy'n gwasanaethu dinas Nottingham yn Swydd Nottingham, Lloegr.
Dechreuodd gwaith adeiladu Gorsaf reilffordd Nottingham ym 1900 ar gyfer Rheilffordd y Midland, gan ddisodli Gorsaf reilffordd (Stryd Carrington), hen orsaf Rheilffordd Swyddi'r Canolbarth. Appwyntiwyd Albert Edward Lambert i gynllunio'r orsaf newydd. Roedd o wedi cynllunio Gorsaf reilffordd Nottingham (Victoria) ar gyfer y Rheilfordd Great Central. Cost yr orsaf oedd 1 miliwn o bynnau. Agorwyd yr orsaf ar 16 Ionawr 1904. Erbyn hyn mae gweddill y gorsafoedd yn Nottingham wedi cau.[1]
Rheolir yr orsaf gan Rheilffordd y Dwyrain Ganolbarth a defnyddir yr orsaf gan drenau CrossCountry, Trenau’r Gogledd ac hefyd tramiau Nottingham Express Transit.
Hanes
[golygu | golygu cod]Hanes cynnar
[golygu | golygu cod]Agorwyd Carrington Street station, gyda agoriad Rheilffordd Midland Counties o Nottingham i Derby. Mae safle’r orsaf wreiddiol gyferbyn â’r un bresennol, lle mae’r Llys Ynadon heddiw.
Gorsaf 1848
[golygu | golygu cod]Ym 1844, cyfunodd Rheilffordd y Midland Counties gyda 2 arall i fod Rheilffordd y Canolbart. Erbyn 1848, roedd angen gorsaf fwy ac roedd llinellau newydd i Lincoln ar agor. Agorwyd gorsaf newydd ar y safle bresennol ar 22 Mai 1848 yn disodli Heol Carrington. Cynlluniwyd yr orsaf gan J.E.Hall, gyda mynediad ar Heol yr Orsaf. Prynodd y rheilffordd gangen gamlas West Croft ym 1869 i’w llenwi a gosod cledlau at y De.[2] Erbyn y 1880au, gweithiodd 170 o bobl yn yr orsaf.
Gorsaf 1904
[golygu | golygu cod]Ar ôl agoriad Gorsaf reilffordd Victoria gan Reilffordd y Great Central, appwyntiwyd Albert Edward Lambert, pensaer lleol, i ail-adeiladu gorsaf y Midland. Roedd o wedi cynllunio gorsaf Victoria, felly roedd y gorsafoedd yn weddol debyg i’w gilydd.[3] Adeladwyd yr orsaf newydd ar safle’r un gwreiddiol, ond gyda’r fynedfa ar Heol Carrington.[4] Roddwyd y gyntundeb i’r adeiladau’r orsaf, gan gynnwys y rhai ar blatfformau 1 a 2 i Edward Wood a’i feibion o Derby ar 23 Ionawr 1903 a 16 Medi 1903. Aeth y gytundeb i’r swyddfa barseli ac adeiladau ar blatfformau 4 a 5 i Kirk a Parry o Sleaford ar 18 Mehefin 1903. Adeiladwyd y gwaith haearn a dur gan Andrew Handyside a Chwmni[5] a Ffowndri Ffenics. Adeiladwyd yr orsaf mewn dull Adfywiad Baroc Edwardiaidd, yn costio miliwn o bynnau, yn defnyddio brics cochion, teracota, a faience, gyda toau o lechi a gwydr.[6] Agorwyd adeiladau’r orsaf ar 17 Ionawr, 1904, er nad oedd y platfformau’n barod.Dywedwyd bod y cyhoedd llawn edmygedd ar safon adeiladau’r orsaf.[7]
20fed ganrif
[golygu | golygu cod]Daeth yr orsaf yn rhan o’r Rheilffordd Llundain, y canolbarth a’r Alban ym 1923. Ar 2il Gorffennaf 1939, roedd yr orsaf yn un o 8 yng nghanolbarth Lloegr wedi targedi gan yr IRA[8] Gadawyd bom mewn siwtces. Dinistriwyd to gwydr yr ystafell gotiau a’r swyddfa ymholiadau.[9] Daeth yr orsaf yn rhan o [[Rheilffordd Brydeinig|Reilffordd Brydeinig ym 1948. Ar ôl preifateiddio’r rheilffyrdd yn y 1990au, daeth yr orsaf yn eiddo i Railtrack ac wedyn Network Rail.
21ain ganrif
[golygu | golygu cod]Nottingham Express Transit
[golygu | golygu cod]Agorwyd tramffordd ym Mawrth 2004, ac oedd Gorsaf reilffordd ei therminws deheuol, ar Heol yr orsaf, yn defnyddio hen draphont Rheilffordd y Great Central dros yr orsaf a’r gamlas. Mae adeilad yno’n cynnwys ardal aros, lifft a grisiau i’r heol islaw a phont i deithwyr, yn arwain at yr orsaf reilffordd. Mae 2 blatfform, gyda le i 3 thram.[10]
Mae’r tramffordd yn mynd yn ogleddol o’r orsaf trwy ganol y ddinas. Yn 2012, dechreuodd waith i estyn y tramffordd i’r De, at Lôn Toton a De Clifton.
Ailddatblygu
[golygu | golygu cod]Datgelwyd cynllun i ailddatblygu’r orsaf gan Norman Baker, aelod y llywodraeth, ar 5 Hydref 2010.[11][12][13] Buasai adeiladau rhestredig yr orsaf yn cael eu adnewyddu, deiladid platform ychwanegol, mwy o siopau, a phont ar gyfer y tramiau.
Cost yr ailwampu oedd tua £60 miliwn; £41 miliwn oddi wrth Network Rail, £14.8 miliwn oddi wrth Cyngor Dinas Nottingham, £2.1 miliwn o’r Gymdeithas Ddatblygu’r Canolbarth Dwyreiniol, £1.6 miliwn o’r cymni Trenau’r Canolbarth Dwyreiniol a hanner miliwn o Ymddiriedolaeth Treftadaeth Rheilffordd.
Cynllun yr orsaf
[golygu | golygu cod]Appwyntiwyd Building Design Partnership i fof yn ymgynghorwyr yn 2001[14][15] yn defnyddio’r tîm sy wedi datblygu Gorsaf Reilffordd Piccadilly, Manceinion am gost o tua £550,000. Cost ran cyntaf y cynllun oedd £99,960[16] a lansiwyd y cynllun ar 19 Gorffennaf 2002. Disgwylwyd ail ran y cynllun i gostio £59,940.63.[17]
Gofynnwyd i Tuffin Ferraby Taylor i arolygu rhannau’r orsaf adeiladwyd cyn 1918. Yn ogystal â gorsaf tramiau, roedd cynteddfa ychwanegol yn rhan o’r cynllun[18] a phlatfform ychwanegol pan oedd angen.
Maes Parcio
[golygu | golygu cod]Adeiladwyd maes parcio aml-lefel newydd rhwng platfform 6 a Heol y Frenhines, dros hanner gorllewinol y maes parcio presennol, gan Vinci Construction.[19][20]. Dechreuwyd gwaith ym Mawrth 2011; agorwyd y maes parcio’n swyddogol ar 14 Mai 2012[21] Gohiriwyd gwaith ar y maes parcio yn 2008 ar ôl cwynion am y cynllun. Ailddechreuodd gwaith ar ôl newidiadau ym mis Rhagfyr 2008.[22][23] Mae gan y maes parcio 5 llawr[24] gyda lle i 950 o geir[25]
Adnewyddu
[golygu | golygu cod]Paratowyd cynlluniau’n costio £19 miliwn yn 2007 a £14 milliwn yn 2008. Derbynwyd adnewyddu a gwaith ar signalau’n costio £11.6 miliwn ar 15 Mai 2009 gan Fwrdd Byddsoddi Network Rail.[26] a gwnaethpwyd y gwaith rhwng 1 AEbrill 2009 a 31 Mawrth 2014.[27] Caewyd yr orsaf yn rhannol dros gyfnod o 10 wythnos yn 2013 i weithio ar y cledrau a signalau.[28]; caewyd pen gorllewinol yr orsaf dros gyfnod o 37 diwrnod, a’r pen dwyreiniol am 10 diwrnod.[29] Trowyd platfform 4 yn 2 blatfform gwahanol.[30] Caniatawyd symudiad yn y 2 gyfeiriad ar y 4 trac ar ben gorllewinol yr orsaf. Mae’r traciau gogleddol yn cyfeirio at Sheffield a Mansfield a’r rhai deheuol at Derby a Leicester.
Pont droed
[golygu | golygu cod]Dros ganol y platfformau, mae pont droed yn mynd o Hel yr Orsaf a’r tramiau, uwchben platfformau 1-5 ac yn terfyn ar blatfform 6 a’r safleodd parcio ar Heol y Frenhines.[31] Mae’r bont yn cario llwybr 28, rhan o “Trent Bridge Footway” rhwng canol y ddinas a Phont Trent.
Pont newydd a safle tram
[golygu | golygu cod]Penderfynwyd y dylai’r cledrau tram yn croesi’r orsaf lle oedd yr hen Great Central, caewyd ers 1973.[32] Dechreuwyd gwaith ar 10 Ebrill 2012, ac roedd y bont yn ei lle erbyn Mai 2013. Enw y bont yw ‘Pont Cyfeillgarwch Karlsruhe’; mae Karlsruhe’n gyfeilldref i Nottingham.[33] Adeiladwyd safle tram newydd ar y bont, yn disodlu’r un ar Heol yr Orsaf, ar 27 Gorffennaf 2015. Terminws deheuol y rhwydwaith tramiau oedd y safle hon hyd at agor ail ran y cynllun, ac wedyn daeth tramiau drwodd i Chilwell a Clifton.[34]
Cyfleusterau
[golygu | golygu cod]Mae’r cledrau a phlatfformau yn cyfeirio o’r gorllewin i ddwyrain; Mae Heol yr Orsaf i’r gogledd a Ffordd y Frenhines i’r De. Mae prif fynedfa i’r orsaf a sawl siop ar Heol Carrington. Mae grisiau, lifft a grisiau symudol yn arwain at y platfformau. Mae’r safle tram uwchben yr orsaf. Mae maes parcio aml-lefel yn dal tua 800 o geir, ac mae le i tacsis o dan y maes parcio.[35].
Platfformau
[golygu | golygu cod]Mae dau blatfform rhwng dau bâr o draciau, yn ddigon hir i ddal trenau 15 cerbyd, a phlatfform arall ar ochr yr orsaf, sy’n dal 4 cerbyd.[36]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan transportheritage.com
- ↑ Gwefan www.nottinghamcity.gov.uk
- ↑ ‘Nottingham Railway Station’ gan Tuffin Ferraby Taylor,2 Ebrill 2008[dolen marw]
- ↑ Railway Gazette, Cyfrol 37 tudalen 743,1922
- ↑ ‘Derby: A History’ gan Jill Armitage:cyhoeddwyr Amberley, 11 Awst 2014
- ↑ Archif Papurau Newydd Prydeinig:Nottingham Evening Post, 16 Ionawr 1904
- ↑ Nottingham Evening Post, 18 Ionawr, 1904
- ↑ ‘The IRA Bombing Campaign Against Britain, 1939-1940’ gan J McKenna, 2016; cyhoeddwr McFarland; isbn=9781476623726
- ↑ ‘Bomb Exposions in Nottingham, Leicester and Derby Stations’; Y Nottingham Journal, 3 Gorffennaf 1939
- ↑ Gwefan thetrams.co.uk
- ↑ ‘Regeneration and Renewal’ gan Ben Cook, 5 Hydref 2010; cyhoeddwr Haymarket
- ↑ ‘Transport Minister announces go-ahead for £60m station revamp’: Nottingham Evening Post
- ↑ Cyhoeddiad gan Norman Baker, ar YouTube
- ↑ Gwefan Cyngor Nottingham
- ↑ "Gwefan Building Design Partnership". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-04-13. Cyrchwyd 2022-04-05.
- ↑ Gwefan cyngor y ddinas
- ↑ Gwefan y ddinas
- ↑ "Gwefan Railway Strategies, 27 Mai 2012". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-09-01. Cyrchwyd 2022-04-16.
- ↑ ‘Improvements at Nottingham station begin’, 7 Mawrth 2011 gan A Samuel
- ↑ Gwefan Construction Enquirer, 11 Awst 2011
- ↑ Gwefan Nottingham Evening Post, 15 Mai 2012
- ↑ Gwefan BBC newyddion
- ↑ Gwefan cpbsonline
- ↑ Gwefan thisisnottingham.co.uk,15 May 2012
- ↑ Gwefan newyddion BBC, 4 Mawrth 2011
- ↑ Gwefan Cyngor Dinas Nottingham
- ↑ Gwefan Network Rail
- ↑ Gwefan passengerfocus.org.uk
- ↑ Gwefan passengerfocus.org.uk
- ↑ Nottingham Evening Post, 18 Gorffennaf 2009
- ↑ Gwefan cyngor Notttingham
- ↑ Gwefan railwatch.org.uk
- ↑ Gwefan Mott MacDonald
- ↑ Gwefan thetrams.co.uk
- ↑ "Gwefan nationalrail.co.uk". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2022-07-16.
- ↑ ’Railway Track Diagrams 4: Midlands & North West’; cyhoeddwyr Trackmaps; isbn=978-0-9549866-7-4