Gorsaf reilffordd Haydons Road
Math | gorsaf reilffordd ![]() |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1923, 1868 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Merton ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.4255°N 0.188°W ![]() |
Côd yr orsaf | HYR ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth | Network Rail ![]() |
Mae gorsaf reilffordd Haydons Road yng ngogledd-ddwyrain Bwrdeistref Merton, Llundain yn ne Llundain. Gwasanaeithir yr orsaf gan drenau Thameslink gan almaf ynghyd â gwasanaeth cyfyngedig gan gwmni trenau Southern yn ystod cyfnodau prysuraf y bore ac hwyr-brynhawn. Mae'r orsaf wedi ei leoli ar y Sutton Loop Line ac o fewn Parth Talu 3/ Travelcard Zone 3.
Fe'i agorwyd yn wreiddiol fel Rheilffordd "Haydens Lane", ger Rheilffordd Tooting, Merton & Wimbledon Railway (ac yntau yn eiddo ar y cyd gan y London and South Western Railway â'r London, Brighton and South Coast Railway) ar y 1af o Hydref 1868. Mae'r orsaf dicedi wedi ei leoli i fyny ar ochr yr orsafː fe ail-ddatblygwyd adeiladau'r orsaf wreiddiol yn ystod 1991 ac 1992 pan ail-ddatblygwyd dir cyfagos i'r platfform ar gyfer adeiladu tai. Tan ddyfodiad cwmni Thameslink fe wasanaethwyd yr orsaf gan drenau dolen London Bridge via Wimbledon.

Gwasanaethau
[golygu | golygu cod]Gwasanaeth nodweddiadol allfrig o'r orsaf yw dwy drên yr awr i Luton via Llundain/London (clocwedd o gwmpas y ddolen) a dwy drên yr awr i Sutton via Wimbledon (gwrthglocwedd). Yn ychwanegol, rhêd cwmni, Southern rhwng 3 a 5 gwasanaeth y dydd rhwng Wimbledon a London Bridge.
Cysylltiadau
[golygu | golygu cod]Bwsiau Llundain/London Buses llwybrau 156, 200 ac mae gwasanaeth rhif 493 hefyd yn gwasanaethu'r orsaf.