Go Dda, Gareth!
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Awdur | Lonna Bradley |
Cyhoeddwr | Gwasg Carreg Gwalch |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1 Mehefin 2001 |
Pwnc | Nofelau Cymraeg i blant a phobol ifanc |
Argaeledd | allan o brint |
ISBN | 9780863817335 |
Tudalennau | 80 |
Casgliad o straeon byrion ar gyfer plant gan Lonna Bradley yw Go Dda, Gareth!. Gwasg Carreg Gwalch a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 2001. Yn 2013 roedd y gyfrol allan o brint.[1]
Disgrifiad byr
[golygu | golygu cod]Casgliad o chwech o straeon ysgafn a doniol am fachgen direidus sydd mewn helynt yn aml wrth geisio gwrthsefyll bygythiadau tri bwli lleol; i ddarllenwyr 8-11 oed. Ceor 11 llun du-a-gwyn.
Mae Go Dda, Gareth! wedi ei osod fel cyfres o straeon byr oll yn trafod bywyd y prif gymeriad sef Gareth a sut mae'n delio a sawl agwedd o fywyd. Y prif destun yw, mae'n debyg, bwlio a sut mae Gareth yn ymdopi ac yna yn delio a'r bwlio mewn ffyrdd digon digri. Mae hiwmor yn ymddangos yn aml yn y straeon a cheir darlun clir o fywyd diddorol y bachgen ifanc. Ysgrifennwyd y llyfr gan Lonna Bradley o Ffestiniog sydd wedi cyhoeddi un llyfr arall i blant yn y gorffennol, sef Helyntion Lwlw Rôs.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013