Gnosis (ocwlt)

Oddi ar Wicipedia
Mae hon yn erthygl am y cysyniad ocwlt modern o'r enw Gnosis. Gweler hefyd Gnosis a Gnostigiaeth.

Cysyniad a gafodd ei gyflwyno gan Peter James Carroll yw gnosis. Mae hyn yn cael ei ddiffinio fel cyflwr arbennig o ymwybyddiaeth sydd yn ei ddamcaniaeth ef o ddewiniaeth yn angenrheidiol i weithio'r rhan fwyaf o ffurfiau o ddewiniaeth. Mae hynny'n wahanol i gysyniadau hŷn oedd yn disgrifio egnion, ysbrydion neu weithredoedd arwyddluniol fel tarddiad pwerau dewinol. Mae'r cysyniad yn tarddu o Fwdhaidd o Samadhi, a ddaeth yn boblogaidd yn ocwltiaeth y Gorllewin trwy waith Aleister Crowley a fforio pellach Austin Osman Spare. Mae gnosis yn cael ei sylweddoli pan fo'r meddwl yn cael ei ganolbwyntio ar un pwynt, meddwl, neu gyrchnod yn unig a dim byd arall. Mae pob ymarferwr dewiniaeth Caos yn datblygu ei ffordd ei hun i gyrraedd y cyflwr yma. Mae pob dull yn seiliedig ar y gred bod meddwl syml neu gyfeiriad a brofir yn ystod gnosis ac sydd yn cael ei anghofio'n fuan wedyn yn cael ei anfon i'r isymwybod, yn hytrach na'r meddwl ymwybodol, lle gall gael ei ddeddfu trwy foddion sydd yn anhysbys i'r meddwl ymwybodol.

Eginyn erthygl sydd uchod am yr ocwlt. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.