Gerddi Menara
![]() | |
Math | gardd, treftadaeth ![]() |
---|---|
Gefeilldref/i | Veliko Tarnovo, Veliko Tarnovo Municipality ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Medina of Marrakesh ![]() |
Sir | Marrakech ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 89 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 31.616703°N 8.024237°W ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | Treftadaeth ddiwylliannol Moroco, rhan o Safle Treftadaeth y Byd ![]() |
Manylion | |
Lleolir Gerddi Menara i'r gorllewin o ddinas Marrakech, Moroco, wrth droed mynyddoedd yr Atlas. Cawsant eu creu yn y 12g (tua 1130) gan Abd al-Mu'min, swltan Almohad Moroco.
Tardda'r enw menara o'r pafiliwn Mwraidd gyda'i tho gwyrdd bychan o ffurf byramidaidd (menzeh). Adeiladwyd yn pafiliwn yn y 16g gan reolwyr y freninllin Saadi a chafodd ei atgyweirio yn 1869 gan y Swltan Abderrahmane, a arferai aros yno yn ystod yr haf.
Dyfrhau[golygu | golygu cod]
Amgylchynir y pafiliwn a'r basn neu lyn artiffisial gan berllannau a llwyni olewydd. Yr amcan wrth adeiladu'r basn oedd gally dyfrhau y gerddi a pherllannau o'i gwmpas trwy ddefnyddio system soffistigedig o sianeli tanddaearol a elwir yn qanats. Caiff y basn ei ddŵr diolch i hen system hydrolig sy'n cyfleu dŵr o droedfryniau'r Atlas, tua 30 km i ffwrdd o Marrakech ei hun.