Gŵyl y Gelli, 1988

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Cynhaliwyd Gŵyl y Gelli am y tro cyntaf ym 1988. Cafodd y syniad i gynnal gŵyl lenyddol yn y Gelli Gandryll, "tref y llyfrau", ei lunio gan yr actor a'r rheolwr theatr Norman Florence, ei wraig yr actores Rhoda Lewis, a'u mab Peter Florence wrth eu bord gegin ym 1987.[1] Dywedir taw'r nawdd cychwynnol i gynnal yr ŵyl oedd £100 a enillwyd mewn gêm o bocer, ond nid yw Peter Florence erioed wedi cadarnháu'r stori hon. Ymwelodd y dramodydd Seisnig Christopher Fry â'r ŵyl gyntaf.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) 20 facts about Hay-on-Wye and its famous festival. BBC (27 Mai 2011). Adalwyd ar 7 Rhagfyr 2014.
  2. (Saesneg) History of the Hay Festival – In The Beginning. MAKING HAY at the Hay Festival (23 Mai 2012). Adalwyd ar 7 Rhagfyr 2014.
Fireworks 2.png Eginyn erthygl sydd uchod am ŵyl neu ddathliad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Book template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.