Gôl

Oddi ar Wicipedia

Pêl-Droed[golygu | golygu cod]

Ystyr gôl yng nghyswllt gêm o bêl-droed yw'r pyst plastig, pren neu fetal y mae'r ddau dîm gwahanol yn gorfod sgorio ynddynt. Y maint arferol i gôl yw wyth troedfedd o uchder ac wyth llathen o led. Mae'r tîmau yn gorfod cael y bêl rywsut dros y llinell (heb ei lawio) sy'n torri drwy geg y gôl i gael pwynt.

Rygbi[golygu | golygu cod]

Wrth chwarae rygbi, mae'r nôd fwy neu lai yr un peth, cael y bêl rhwng y gôl (neu pyst fel y'i gelwir mewn gêm o rygbi) wrth ei chicio o ganlyniad i gic gosb neu gic adlam arferol. Mewn gêm o rygbi, mae'r pyst yn dalach - mae'r uchder at y bar sy'n mynd ar draws yn dair medr, a lled y pyst yw 5.6 medr.

Eraill[golygu | golygu cod]

  • Mae goliau'n wahanol mewn pob math o chwaraeon, weithiau mae'n dibynnu ar y math o chwaraeon ydyw, neu y math o bêl sy'n cael ei defnyddio. Er enghraifft, mae gôl hoci iâ yn llai o lawer na rygbi a phêl-droed, oherwydd y bêl fach ac y math o symud sydd yn y chwaraeon.
  • Wrth chwarae pêl-droed Wyddelig, mae'r pyst o'r un math â'r rhai rygbi, ac os mae'r bêl yn cael ei daro o dan y bar, mae gôl yn cael ei roi, ac uwchben y bar mae pwynt yn cael ei roi.
  • Yn anhygoel mewn pêl-droed Americanaidd, mae'r gynulleidfa weithiau ar ddiwedd yr orchest yn tynnu'r pyst i lawr! Mae'r gofalwyr mewn stadiymau wedi bod yn ofalus i fyrhau'r pyst i atal hwn rhag digwydd.