Hon yw Fy Fflam Fach I (cân)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Fy Fflam Fach I (cân))

Cân gospel i blant a ysgrifennwyd gan Harry Dixon Loes yn y 1920, a hynny o dan yr enw "This Little Light of Mine", yw "Hon yw Fy Fflam Fach I". Cafodd ei haddasu gan Zilphia Horton, ynghyd â nifer o actifyddion eraill, mewn cysylltiad a'r mudiad hawliau sifil.[1] Mae thema Feiblaidd i'r geiriau, ac mae'n bosib ei fod yn seiliedig ar eiriau Iesu yn Mathew 5:14-16 a Luc 11:33, ble mae'n cyfeirio at oleuni a channwyll.

Ceir nifer o fersiynau o'r gân erbyn heddiw. Mae'r gan hefyd wedi'i seciwlareiddio i "This Little Girl of Mine" a'i recordio gan Ray Charles[2] yn 1956 a The Everly Brothers yn ddiweddarach. Mae'n aml yn cael ei chyflwyno gyda chyfres o symudiadau dwylo ar gyfer plant.

Daeth yn anthem hawliau sifil yn y 1950au a'r 1960au o dan ddylanwad Zilphia Horton, Fannie Lou Hamer, ac yn arbennig y fersiwn gan Betty Fikes.[3] Recordiwyd hi gan The Seekers ar gyfer eu halbwm Hide & Seekers (hefyd yn cael ei adnabod fel The Four & Only Seekers) yn 1964. Daeth yn gân boblogaidd i blant dros amser, a chafodd ei recordio a'i pherfformio gan Raffi yn the 1980au.

Perfformiodd Odetta a Boys Choir of Harlem y gân ar raglen The Late Show with David Letterman ar 17 Medi 2001, y gyntaf ar ôl i Letterman ail-ddechrau darlledu yn dilyn digwyddiadau 9/11.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Is "This Little Light of Mine" Really a Slave Spiritual Song?". ThoughtCo. Cyrchwyd 2018-02-08.
  2. Gilliland, John (1969). "Show 3 - The Tribal Drum: The rise of rhythm and blues. [Part 1]" (audio). Pop Chronicles (en). Digital.library.unt.edu.CS1 maint: ref=harv (link)
  3. "Voices of the Civil Rights Movement: Black American Freedom". Smithsonian Folkways. Cyrchwyd 2015-06-11.
  4. "Boys Choir Of Harlem News". Archifwyd o'r gwreiddiol ar April 11, 2013. Cyrchwyd February 13, 2013. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)