Frances McDormand

Oddi ar Wicipedia
Frances McDormand
GanwydCynthia Ann Smith Edit this on Wikidata
23 Mehefin 1957 Edit this on Wikidata
Gibson City, Illinois Edit this on Wikidata
Man preswylDinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner UDA UDA
Alma mater
  • Bethany College
  • Ysgol Ddrama Yale
  • Monessen High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor ffilm, actor cymeriad, actor llwyfan, actor teledu, actor llais, actor, cynhyrchydd teledu, cynhyrchydd ffilm Edit this on Wikidata
PriodJoel Coen Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr yr Academi am yr Actores Orau, Gwobr Tony am yr Actores Orau mewn Drama, Gwobr BAFTA am yr Actores Orau i Chwarae'r Brif Ran, Gwobr y Golden Globe i'r Actores Orau - Drama ar Ffilm, Gwobr 'FiLM iNDEPENDENT', Gwobr Cymdeithas Actorion Sgrîn, Gwobr yr Academi am yr Actores Orau, Gwobr Golden Globe am yr Actores Gynhaliol Orau - Ffilm Nodwedd, Gwobr Primetime Emmy ar gyfer Prif Actores Eithriadol mewn Cyfres Bitw neu Ffilm, Gwobr yr Academi am yr Actores Orau, Drama Desk Award for Outstanding Actress in a Play Edit this on Wikidata

Actores ffilm Americanaidd yw Frances Louise McDormand (ganwyd Cynthia Ann Smith; ganwyd 23 Mehefin 1957).

Mae McDormand wedi ennill pedair Gwobr Academi, dwy Gwobr Golden Globe Awards, tair gwobr BAFTA, dwy gwobr Emmy ac un wobr Tony.[1]

Cafodd McDormand ei geni yn Gibson City, Illinois.[2] Cafodd ei mabwysiadu gan Noreen (Nickelson) a Vernon McDormand a'i ailenwi'n Frances Louise McDormand. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Bethany ac ym Mhrifysgol Yale.

Mae hi wedi serennu yn nifer o ffilmiau'r Brodyr Coen, yn cynnwys Blood Simple (1984), Raising Arizona (1987), Fargo (1996), The Man Who Wasn't There (2001), Burn After Reading (2008), a Hail, Caesar! (2016). Am ei rôl fel Marge Gunderson yn Fargo, enillodd y Gwobr Academi am Actores Orau mewn Rhan Arweiniol. Enillodd y Wobr eto am Three Billboards Outside Ebbing, Missouri, ac eto am ei rôl yn Nomadland, yn y 93fed seremoni wobrwyo yr Academi.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Frances McDormand - Career Summary". The Numbers. Nash Information Services, LLC. Cyrchwyd March 29, 2021.
  2. Kisner, Jordan (3 Hydref 2017). "Frances McDormand's Difficult Women". The New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Chwefror 2018. Cyrchwyd 17 Ionawr 2018.