force-get

Oddi ar Wicipedia

force-get yw rheolwr-pecynnau ar gyfer GNU/Linux sydd gyda'r amcan o alluogi cydfyw rhwng pecynnau tardd a deuol ar yr un system gyfrifiadurol. Mae'r fersiwn mwyaf newydd wedi ei ysgrifennu mewn BASh, sef iaith cragen o UNIX. force-get yw'r rheolwr pecynnau rhagosodedig yn Jedi Linux, ac mae'n gweithio mewn llawer o ddosbarthiadau GNU/Linux eraill.

Er fod yna dim ond ychydig o becynnau yn y force-tree ar hyn o bryd, mae pecynnau'r cael eu ychwanegu gan dîm o ddatblygwyr wrth iddynt ceisio ddygymod a anghenion o ddefnyddwyr GNU/Linux. Yn ogystal mae ffeiliau ffurfweddu gyda ffurf syml sy'n ei wneud yn eithaf hawdd i ddefnyddwyr ychwanegu pecynnau newydd i'r force-tree. Mae force-get yn cael ei ystyried fel meddalwedd beta ond mae mewn datblygiad parhaol.

Gweler Hefyd[golygu | golygu cod]

Linciau Allanol[golygu | golygu cod]