Ffwythiant gwaith
Enghraifft o'r canlynol | nodwedd ffisegol |
---|---|
Math | egni |
Yn ffiseg cyflwr-solet, ffwythiant gwaith yw'r lleiafswm o waith thermodynamig (hy egni) sydd ei angen i symud electron o'r lefel Fermi (solid) i wactod sydd y tu allan i'r arwyneb solid. Hynny yw, yr egni sydd ei angen i echdynnu electron o solet.
Diffiniad
[golygu | golygu cod]Mae'r ffwythiant gwaith W ar gyfer unrhyw arwyneb yn cael ei ddiffinio gan y gwahaniaeth[1]
ble mae −e yn cyfeirio at wefr yr electron, ϕ yw'r potensial electrostatig yn y gwactod ger yr arwyneb a EF yw'r lefel Fermi (potensial electrstatig yr electronau) y tu fewn i'r deunydd. Mae'r term −eϕ yn cyfeirio at egni'r electron pan fo'n llonydd yn y gwactod ger yr arwyneb. H.y. mae'r ffwythiant gwaith yn cael ei ddiffinio fel y gwaith thermodynamig sydd ei angen i symud electron o'r deunydd i gyflwr llonydd yn y gwactod ger yr arwyneb.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Kittel, Charles. Introduction to Solid State Physics (arg. 7th). Wiley.