Fforest Savernake
Gwedd
![]() | |
Math | coedwig frenhinol, coedwig ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Savernake |
Daearyddiaeth | |
Sir | Wiltshire (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 4,500 acre ![]() |
Cyfesurynnau | 51.3833°N 1.6833°W ![]() |
![]() | |
Fforest yn Wiltshire, De-orllewin Lloegr, rhwng trefi Marlborough a Hungerford yw Fforest Savernake (ynganiad /ˡsævənæk/). Mae'r fforest mewn dwylo preifat, yn berchen Ymddiriedolwyr Ystâd Savernake, Iarll Aberteifi a'i gyfriethiwr teuluol, ond yn cael ei goruchwylio drwy brydles gan y Comisiwn Coedwigaeth. Mae'n gorchuddio rhyw 1800 hectar (4500 erw).
Mae'r enw o darddiad Brythoneg, o'r Frythoneg *Sabrināco-, sy'n cynnwys enw'r dduwies Sabrina a therfyniad a welir fel -og mewn geiriau megis draenog neu corsog yn y Gymraeg. Cyfeirir ato mewn ffynonellau Hen Saesneg fel Safernoc.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Fforest Savernake ar wefan y Comisiwn Coedwigaeth Archifwyd 2008-01-30 yn y Peiriant Wayback