Ferwca

Oddi ar Wicipedia
Clwstwr o ferwca ar droed

Dafaden gwadnol a achosir gan y feirws papiloma dynol (HPV) ac sy'n ymddangos ar y sawdl, ac ar waelod neu fysedd y traed ydy ferwca hefyd dafaden[1] [2] neu tafaden.[3] Gan amlaf mae dafaennau gwadnol yn cyfyngu eu hunain ac nid ydynt yn lledu'n ormodol, ond yn gyffredinol argymhellir triniaeth i leihau'r symptomau (sy'n medru bod yn boenus), i'w gwaredu'n gynt, ac i osgoi eu trosglwyddo i bobl eraill.

Credir fod gan tua 10% o boblogaeth yr Deyrnas Unedig ferwca ar unrhyw adeg penodol.[4]

Rhwystro'r feirws rhag lledu[golygu | golygu cod]

Lledir y feirws HPV trwy gysylltiad uniongyrchol ac anuniongyrchol gyda pherson sydd yn cario'r feirws. Gall osgoi cyswllt uniongyrchol gydag arwynebeddau heintiedig e.e. mewn ystafelloedd newid comunol, lloriau cawodydd, meinciau a.y.y.b. leihau'r siawns o gael eich heintio, yn ogystal ag osgoi rhannu esgidiau a sanau gyda rhywun sydd â ferwca. Hefyd, dylid osgoi cysylltiad rhwng y ferwca a rhannau eraill o'ch corff eich hun a chyrff pobl eraill. Mae heinitaidau'n fwy cyffredin ymysg oedolion na phlant.

Am fod pob dafaden yn heintus, dylid cymryd camau er mwyn osgoi eu lledaenu. Argymhella'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol fod plant sydd â dafaden yn:

  • eu gorchuddio gyda bandais gludog tra'n nofio
  • gwisgo fflip-fflops pan yn defnyddio cawdoydd comunol
  • osgoi rhannu tywelion.[5]

Triniaeth[golygu | golygu cod]

Yn aml, mae triniaeth confensiynol yn effeithiol wrth ymdrin â ferwcas. Mae rhain yn cynnwys:

Triniaeth gychwynnol Asid salicylic o'r fferyllfa
Triniaeth eilradd Cryofeddygaeth, imiwnotherapi mewnanaf, neu therapi laser lliw curiadol
Triniaeth olaf Bleomycin, toriad llawdriniaethol

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Geiriadur yr Academi, s.v. verruca
  2.  dafaden. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 15 Awst 2022.
  3. https://www.thepodiatristaber.co.uk/consultationscd5d8e9b[dolen marw]
  4. Warts and Verrucas Archifwyd 2013-09-11 yn y Peiriant Wayback. Gwefan Patient.co.uk 30 Awst 2013
  5. "Clinical Knowledge Summaries: Previous version – Warts (including verrucas)" (PDF). Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Ionawr 2007. td. 2. Adalwyd ar 2010-12-05