Fatima Whitbread

Oddi ar Wicipedia
Fatima Whitbread
Ganwyd3 Mawrth 1961 Edit this on Wikidata
Stoke Newington Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethjavelin thrower, hunangofiannydd Edit this on Wikidata
Taldra168 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau68 cilogram Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE, Bislett medal, Gwobr Personoliaeth y Flwyddyn, BBC Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Mae Fatima Whitbread, MBE (ganwyd Vedad; 3 Mawrth 1961) yn daflwr gwaywffon Prydeinig wedi ymddeol. Torrodd record y byd gyda thafliad ym 1986. Enillodd y fedal aur ym Mhencampwriaethau Athletau'r Byd yn Rhufain yn 1987.[1]

[2]

Cafodd ei geni yn Stoke Newington. Fe'i magwyd yn bennaf mewn cartrefi plant. Ar ôl plentyndod cynnar anodd, mabwysiadwyd hi gan ei athrawes Margaret Whitbread, hyfforddwr gwaywffon. Fel disgybl ysgol, cafodd ei dewis ar gyfer Gemau'r Gymanwlad 1978, lle gorffennodd yn chweched. Wedyn, enillodd fedal aur ym Mhencampwriaethau Iau Athletau Ewropeaidd 1979. Pencampwriaethau Athletau'r DU 1990 oedd ei digwyddiad olaf fel cystadleuydd. Enillodd Wobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC ym 1987 a'r Wobr Helen Rollason yn 2023.[3]

Hunangofiant[golygu | golygu cod]

  • Whitbread, Fatima; Blue, Adrianne (1988). Fatima: The Autobiography of Fatima Whitbread. London: Pelham. ISBN 978-0720718560.
  • Whitbread, Fatima; Blue, Adrianne (2012). Survivor: The Shocking and Inspiring Story of a True Champion. London: Virgin Books. ISBN 978-0753540961.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Keating, Frank (7 Medi 1987). "Fatima spearheads British victories". The Guardian (yn Saesneg). t. 1.
  2. Powell, David (10 Medi 1987). "Whitbread's winter work". The Times. t. 42.
  3. "Sports Personality of the Year – Past Winners". BBC Sport (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Gorffennaf 2004. Cyrchwyd 23 Tachwedd 2007.