Evermeet

Oddi ar Wicipedia
Evermeet
Enghraifft o'r canlynolynys ffuglennol, fictional island country Edit this on Wikidata
CrëwrEd Greenwood Edit this on Wikidata

Mae Evermeet (sef Bythgwrdd yn y Gymraeg) yn ynys yn y byd dychmygol Forgotten Realms ('Teyrnasoedd Anghof') yn y gêm chwarae-rol ffantasiol Dungeons & Dragons ('Daeardai a Dreigiau') a leolir i'r gorllewin o gyfandir dychmygol Faerûn yn y Trackless Sea. Dyma ble yr aeth yr elffod (neu 'gorachod') yn ystod y Retreat.

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

Llyfr am Bythgwrdd oedd Elves of Evermeet, gan Anthony Pryor (1994), sef llyfr a seiliwyd ar ail gyhoeddiad y gêm 'Daeardai & Dreigiau' (AD&D Ail Gyhoeddiad).[1]

Bythgwrdd hefyd yw sail nofel Evermeet: Island of Elves, a sgwennwyd hefyd gan Elaine Cunningham.[2]

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Mae Ynys Fythgwrdd yn cael ei rheoli gan y Frenhines Amlaruil Moonflower (Amlarwil Lloerflodyn), sy'n byw yn y brifddinas Leuthilspar (Lewthilspar), lle mae'n trigo llawer o deuluoedd pwysig fel y Durothils (Dwrothiliaid). Mae yna llawer o bobl sy wedi ceisio gorchfygu Bythgwrdd dros y blynyddoedd, sef y Swynwyr Cochion, y Zhentarim, drow (elffod tywyll) Faerûn, a môr-ladron Arfordir y Cleddyfau (Sword Coast).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Pryor, Anthony. Elves of Evermeet (TSR, Inc., 1994)
  2. Cunningham, Elaine. Evermeet: Island of Elves. Wizards of the Coast, 1999

Dolen allanol[golygu | golygu cod]