Et tu, Brute?
Gwedd
Ymadrodd Lladin sy'n meddwl "Hyd yn oed ti, Brutus?" (neu"Ti hefyd, Brutus, cyfieithiad llythrennol "A ti, Brutus?") ydy "Et tu, Brute?". Defnyddir yr ymadrodd mewn cyd-destun barddonol I gynrychioli geiriau olaf yr unben Rhufeinig Julius Caesar i'w ffrind Marcus Brutus pan gafodd ei ddienyddio. Fodd bynnag nid oes tystiolaeth ei fod wedi defnyddio'r geiriau hyn a phriodolir eu henwogrwydd i William Shakespeare a ddefnyddiodd y geiriau yn ei ddrama Julius Caesar.[1][2] Defnyddir y dyfyniad yng ngwledydd y gorllewin i gynrychioli brâd eithafol.