Erastiaeth

Oddi ar Wicipedia

Erastiaeth yw'r gred ddiwinyddol neu wleidyddol mai'r wladwriaeth a ddylai fod yn ben mewn materion eglwysig, yn hytrach na'r eglwys ei hun. Enwyd y gred ar ôl Thomas Erastus (1524 - 1583), diwinydd o'r Swistir.

Yn 1589, cyhoeddwyd Erastus ei waith Explicatio gravissimae quaestionis utrum excommunicatio, quatenus religionem intelligentes et amplexantes, a sacramentorum usu, pro pier admissum facinus arcet, mandato natur divino, an excogitala sit ab hominibus, sy'n datgan mai'r wladwriaeth oedd a'r hawl i gosbi pechodau Cristionogion, nid yr eglwys. Mae Erastiaeth ei hun yn syniad lletach, sef mai'r wladwriaeth ddulai fod yn ben ymhob agwedd o fywyd yr eglwys.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]


Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.