Elmley
Gwedd
Math | pentref |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Swale |
Daearyddiaeth | |
Sir | Caint (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.3909°N 0.7756°E |
Cod OS | TQ932694 |
Ardal o Ynys Sheppey yng Nghaint, De-ddwyrain Lloegr, ydy Elmley. Yn y gorffennol roedd pentref Elmley yn sefyll yn yr ardal, ond dim ond un fferm sydd ar ôl heddiw.
Roedd gan bentref Elmley boblogaeth o tua 200 o bobl ar ddiwedd y 19g. Roedd yn cynnwys gweithfa sment, sef prif gyflogwr yr ardal, yn ogystal ag ysgol, eglwys, tafarn a 30 o dai. Dirywiodd y pentref ar ôl i'r gwaithfa sment gau ym 1902. Caeodd yr ysgol yn y 1920au a dymchwelwyd yr eglwys yn y 1960au.[1]
Yn y 1970au sefydlwyd cronfa adar o 3,250 erw (13.2 km2) ar y corsydd – un o'r mwyaf yn Lloegr. Mae'n ffurfio rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Elmley, sy'n eiddo ac yn cael ei reoli gan Elmley Conservation Trust.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ John Rymill, The Three Sheppey Islands in the 19th and 20th Centuries (Tonbridge, 2006)
- ↑ Gwefan Gwarchodfa Natur Elmley; adalwyd 14 Mai 2018