Eirwyn George
Eirwyn George | |
---|---|
Ganwyd | 1936 Tufton |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd |
Bardd, llenor ac awdur yw Eirwyn George (ganwyd 1936). Cafodd ei fagu ar ffermdy Tyrhyg Isaf yn ardal Twffton yng Ngogledd Sir Benfro i’r gogledd o’r Landsker Line (sef y ffin ieithyddol sy'n rhannu'r sir). Mae’n Brifardd y Goron; mae wedi ennill y gystadleuaeth ddwywaith (1982 ac 1993). Mae'n byw ym mhentref Maenclochog gyda’i wraig, Maureen.[1]
Bywyd Cynnar
[golygu | golygu cod]Un o blant y Preselau yng Ngogledd Sir Benfro yw Eirwyn George. Unig blentyn Thomas Elwyn ac Emily Louisa. Ganed ef yn 1936. Ffarm Tyrhyg Isaf yn ardal Twffton oedd cartre'r teulu. Ffarmwr oedd y tad, dyn diwylliedig, oedd yn cael blas ar lunio penillion i ddathlu achlysuron arbennig yn yr ardal. Cystadlu hefyd yn eisteddfodau'r cylch. Roedd Henry George, tad ei dad, yn cyfansoddi penillion crefyddol hefyd o bryd i'w gilydd.
Pan oedd Eirwyn yn naw oed fe symudodd y teulu i ffarm Castellhenri. Ffarm doreithiog rhwng pentrefi Maenclochog a Chas-mael. Erbyn hyn roedd Eirwyn yn mynychu Ysgol Garnochor. Ysgol fechan ar y ffordd o Twffton i Faenclochog sydd bellach wedi cau ers blynyddoedd.
Bywyd Personol
[golygu | golygu cod]Priododd Eirwyn â Maureen Lewis o bentre Hermon wrth odre'r Frenni Fawr ym mis Awst 1981. Unig ferch Howard a Megan Lewis oedd hi a chwaer hŷn i Roy oedd dair blynedd yn ifancach. Athrawes (a phrifathrawes yn ddiweddarach) yn yr ysgol leol oedd Maureen. Roedd hi'n weithgar iawn yng Nghapel Hermon y Bedyddwyr hefyd ac yn ysgrifennydd, diacon ac organydd. Wedi i Eirwyn a Maureen briodi ymgartrefodd y ddau ym mhentre Maenclochog. Maent yn dal i fyw yn yr un tŷ hefyd hyd y dydd heddiw.
Addysg Gynnar
[golygu | golygu cod]Ni chafodd Eirwyn ryw lawer o flas ar addysg yn yr ysgol gynradd, a phenderfynwyd mai derbyn hyfforddiant personol yn ei gartre oedd yr opsiwn gorau iddo i sefyll arholiadau'r 11+. Y tu hwnt i bob disgwyl fe fu'n llwyddiannus a symud ymlaen i dderbyn addysg uwchradd yn Ysgol Ramadeg Arberth. Tra bu'n ddisgybl yno am dair blynedd roedd e'n lletya gyda thri o fechgyn eraill – Les Williams o Fynachlog-ddu a'r ddau frawd John a Gwilym Williams o Lysyfrân. Symudodd yn ôl adre i ffermio pan oedd e yn bymtheg oed wedi i'w dad gael damwain ddifrifol adeg y cynhaeaf gwair. Ar ôl iddo fod yn ffermio yng Nghastellhenri am 12 o flynyddoedd, a iechyd ei dad yn gwaethygu, penderfynodd roi'r gorau i ffermio a gwneud cais i gael ei dderbyn yn fyfyriwr yng Ngholeg Harlech. Coleg oedd yn rhoi cyfle i oedolion ailafael yn awenau addysg. Bu ei gais yn llwyddiannus. Fel mae'n digwydd, wyth Cymro Cymraeg yn oedd yn fyfyrwyr yn y Coleg ar y pryd a daeth rhai ohonynt yn gyfeillion agos iawn i Eirwyn yn cynnwys Emyr Wyn Rowlands o Langristiolus yn Sir Fôn, Glan Jones o Lan-saint, a Basil Hughes o Langennech. Mae'n rhaid dweud i Eirwyn, ar y cyd ag Emyr Wyn Rowlands, fod yn cynrychioli'r Coleg yn Ymryson Areithio Colegau Cymru yn Aberystwyth. Ysgrifennodd draethawd ymchwil hefyd ar y testun ‘Delweddau Gwenallt’, (ei hoff fardd) i roi cynnig am Mature State Scholarship, a sicrhau ei le yn y Coleg Ger y Lli.
Cymraeg, Hanes Cymru, ac Addysg, oedd ei ddewis bynciau yn ei flwyddyn gyntaf yn y Brifysgol. Gwefr fawr iddo oedd cael Gwenallt yn un o'r darlithwyr. Yn ystod ei flwyddyn gyntaf enillodd Gadair yr Eisteddfod Ryng-golegol hefyd. Gweler yr adran ‘Cystadlu’. Yn ystod ei ail flwyddyn ef oedd llywydd Taliesin, cymdeithas y myfyrwyr Cymraeg, a'r flwyddyn ddilynol yn drefnydd Cymdeithas y Celfau Creadigol – cymdeithas oedd yn cyfarfod i drin a thrafod barddoniaeth o bob math.
Derbyniodd Eirwyn radd anrhydedd arbenigol yn y Gymraeg yn 1967, a chael ei benodi wedyn yn Gynorthwy-ydd Ymchwil yn y Gyfadran Addysg i baratoi Geiriadur Termau i ddysgu pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgol a choleg; swydd y bu'n ei dal am ddwy flynedd. Dilyn y cwrs Ymarfer Dysgu wedyn, a threulio tymor o brofiad-gwaith yn ysgolion uwchradd Y Preseli a Thregaron.
Ei swydd gyntaf fel athro oedd dysgu Cymraeg a Hanes yn Ysgol Uwchradd Arberth, ei hen Ysgol Ramadeg. Cafodd ei benodi wedyn ymhen blwyddyn yn athro yn Ysgol y Preseli. Bu'n dysgu Cymraeg i wahanol lefelau drwy'r ysgol ynghyd â Hanes Cymru i rai o'r dosbarthiadau uchaf. Y Prifardd James Nicholas oedd y prifathro a daeth Eirwyn a Jâms yn gyfeillion oes.
Cystadlu
[golygu | golygu cod]Dechreuodd Eirwyn gystadlu ar adrodd mewn eisteddfodau lleol yn bedair oed! Cafodd gryn lwyddiant arni hefyd. Ond pan oedd ei lais yn troi yn 16 oed rhoddodd y gorau iddi a chanolbwyntio ar y cystadlaethau llenyddol. Daeth wyth o wobrau iddo am farddoniaeth yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 1959–61. Bu'n cymryd rhan (cyfansoddi englyn ar y pryd) yn y gystadleuaeth radio Sêr y Siroedd 1958–1960. Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Clunderwen 1959 a chafodd y dwymyn gystadlu afael go iawn arno yn y blynyddoedd dilynol. Erbyn hyn mae'r ystadegau yn dangos iddo ennill 26 o gadeiriau ar draws Cymru gyfan. Dwy goron hefyd a dwy fedal ryddiaith.
Uchelgais pob bardd cystadleuol yw ennill naill ai y Goron neu'r Gadair yn y Genedlaethol, a chafodd uchelgais Eirwyn ei gwireddu drwy ennill y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1982, a hefyd yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelwedd 1993. Dwy gerdd wedi eu lleoli ar dir a daear Sir Benfro.
Gwleidyddiaeth
[golygu | golygu cod]Mae Eirwyn yn genedlaetholwr pybyr, a hyd yn oed cyn iddo ddechrau yn y Brifysgol roedd e'n aelod o gangen Maenclochog o Blaid Cymru ac yn ysgrifennydd y wasg hefyd. Daeth i gysylltiad agos â D. J. Williams, Abergwaun, yn fuan ar ôl iddo adael yr ysgol, a bu'n rhoi help llaw iddo yn aml i ddosbarthu taflenni Plaid Cymru mewn cyfarfodydd cyhoeddus. Cynhaliwyd Etholiad Cyffredinol 1966 pan oedd Eirwyn yn fyfyriwr yn y Coleg yn Aberystwyth. E. G. Millward, un o'r ddarlithwyr oedd ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngheredigion a bu Eirwyn yn canfasio'n galed drosto adeg Gwyliau'r Pasg.
Daeth yn aelod o Gymdeithas yr Iaith ar ddechrau ei gyfnod yn Aberystwyth a chymryd rhan ym mhrotestiadau'r Gymdeithas yn erbyn Seisnigrwydd y swyddfeydd post mewn nifer o ardaloedd ledled Cymru.
Ni ddangosodd ddisg treth Saesneg ar sgrin ei gar ychwaith am rai blynyddoedd tan i'r awdurdodau ddarparu disg ddwyieithog. Mae Eirwyn yn dal yn genedlaetholwr o hyd ac yn cenhadu heb flewyn ar ei dafod yn etholiadau San Steffan a'r Senedd yng Nghaerdydd fel ei gilydd.
Oedfaon Unigryw
[golygu | golygu cod]Bu Eirwyn yn gapelwr selog erioed. Cafodd ei dderbyn yn aelod yng Nghapel Seilo, Twffton yn ddeuddeg oed. Ac er iddo dreulio blynyddoedd mewn nifer o ardaloedd eraill cadwodd ei aelodaeth yn Seilo.
Fodd bynnag, ymaelododd yn y Tabernacl, Maenclochog yn 2004, capel oedd bellach ar garreg y drws. Nid oedd yno weinidog ar y pryd a chafodd Eirwyn syniad oedd wrth fodd ei galon; llunio a chyflwyno oedfaon o eitemau ar lafar ac ar gân i lenwi Suliau gwag, gyda'r aelodau eu hunain yn cymryd rhan. Mae'n rhaid dweud fod yno ddigon o dalent ar y pryd, yn cynnwys llawer o bobol ifanc ymroddgar.
Dyma rai o themâu'r oedfaon : Gweision i Grist; Crist y Beirdd; Byd yr Emyn; Dros Gymru'n Gwlad; Y Duw byw mewn gwisg fodern. Cyn pen fawr o dro roedden nhw'n cael gwahoddiad i fynd â'r oedfaon i gapeli eraill yn y gymdogaeth.
Rhoddodd Eirwyn y gorau iddi ymhen deng mlynedd a'r olaf un oedd Oedfa Goffa i W. R. Nicholas yng Nghapel Mair, Aberteifi yn 2014. Nid gormodiaeth yw dweud ychwaith fod yr oedfaon ar ffurf eitemau wedi gafael yn y cynulleidfaoedd a bod yna fwlch ar eu hôl.
Cyfrolau Eirwyn George
[golygu | golygu cod]- O'r Moelwyn i'r Preselau, ar y cyd â T R Jones, Gomer, 1975. (Casgliad o gerddi o waith y ddau fardd)
- Abergwaun a'r Fro (gol.) Christopher Davies, 1996. (Dilyniant o ysgrifau gan 18 o awduron yn ymdrin â gwahanol agweddau ar hanes Sir Benfro)
- Y Corn Gwlad (gol.) ar y cyd â Rhys Nicholas, Gwasg Gee, 1989. (Casgliad o farddoniaeth a rhyddiaith gan rai o'n hawduron blaenllaw)
- Annibyniaeth y Bryniau (gol.) Tŷ John Penry, 1990. (Braslun o hanes 12 o eglwysi Annibynnol gogledd Sir Benfro)
- Hanes Eglwys Annibynnol Seilo, Tufton. E. L. Jones, 1992. (Golwg ar hanes yr achos ar achlysur dathlu 150 mlynedd)
- Egin Mai, (gol.) E. L. Jones, 1995. (Detholiad o farddoniaeth a rhyddiaith disgyblion ysgolion uwchradd Sir Benfro, Caerfyrddin a Cheredigion)
- Blodeugerdd y Preselau, (gol.) Cyhoeddiadau Barddas, 1995. (Blodeugerdd o weithiau beirdd oedd yn gysylltiedig â'r fro 1969–95)
- Llynnoedd a Cherddi Eraill, Gwasg Gwynedd, 1996. (Casgliad o farddoniaeth Eirwyn yn cynnwys y cerddi a enillodd y Goron iddo yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1982 a Llanelwedd 1993)
- Meini Nadd a Mynyddoedd, Gomer, 1999. (Dwy daith lenyddol-hanesyddol o gwmpas rhai o gerrig coffa nodedig ardal y Preselau)
- Estyn yr Haul, (gol.) Cyhoeddiadau Barddas, 2000. (Blodeugerdd Ryddiaith o waith awduron Sir Benfro yn yr Ugeinfed Ganrif)
- Gwŷr Llên Sir Benfro yn yr Ugeinfed Ganrif, Gwasg Gwynedd, 2001. (Portread o ddeunaw o awduron nodedig a aned yn y Sir)
- Gorllewin Penfro, Carreg Gwalch, 2002. (Taith o gwmpas ardaloedd Abergwaun, Tyddewi a Hwlffordd)
- O Gwmpas Maenclochog mewn Lluniau (dwyieithog) Clychau Clochog, 2004. (Llyfr hanes wedi ei ddosbarthu yn nifer o gategorïau)
- Eisteddfod Maenclochog, E. L. Jones, 2005. (Golwg ar weithgareddau’r Eisteddfod ar hyd y blynyddoedd ynghyd a rhai o eisteddfodau eraill gogledd Sir Benfro)
- Cân yr Oerwynt, Cyhoeddiadau Barddas, 2009. (Casgliad o gerddi diweddar Eirwyn George)
- Fel Hyn y Bu , Eirwyn George, Y Lolfa, 2010. (Hunangofiant yr awdur)
- Hiwmor y Preseli, Y Lolfa, 2011. (Casgliad o straeon yn ymwneud â hiwmor a doniolwch cefn gwlad. Pobol a digwyddiadau fel ei gilydd)
- Cynnal y Fflam, Y Lolfa 2012. (Golwg ar weithgareddau Annibynwyr Cymraeg Sir Benfro)
- Taith Waldo (dwyieithog) gyda D. Walford Davies, Cymdeithas Waldo, 2013. (Teithiau i ymweld â'r lleoedd oedd wedi ysbrydoli nifer o gerddi mwyaf adnabyddus Waldo yn Sir Benfro)
- Perci Llawn Pobol (gol.) Carreg Gwalch, 2016. (Casgliad o ganu beirdd gwlad y Preseli a'r Cylch)
- Braslun o Hanes Plwyf Castellhenri. (dwyieithog) E. L. Jones, 2018. (Hanes plwyf genedigol yr awdur yn cynnwys pobol a digwyddiadau eto)
- Blodeugerdd Waldo (gol.) Y Lolfa, 2020. (Casgliad o 62 o gerddi teyrnged gan 40 o feirdd)
- Dilyn Waldo, Cymdeithas Waldo, 2021. Cyfrol i ddathlu degawd cyntaf Cymdeithas Waldo a sefydlwyd yn 2010. (Casgliad o weithgareddau o bob math yn dod i olau dydd am y tro cyntaf)
- Brethyn Gwlad, E. L. Jones, 2022. (Detholiad o gerddi ac ysgrifau’r awdur yn ymwneud â phobol a digwyddiadau ei filltir sgwâr)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Darllen Pellach
[golygu | golygu cod]- T Gwynn Jones, 'Eirwyn George: Dyn ei Fro', Taliesin, Haf 2002
- Donald Evans, 'Ias Sylwedd y Preselau: Golwg ar Farddoniaeth Eirwyn George', Barddas, Mawrth 2005