Ein Breiniad

Oddi ar Wicipedia

Ein Breiniad oedd y papur newydd cyntaf i gael ei argraffu yn y Wladfa ym Mhatagonia. Y Brut (1868) oedd y papur newydd cyntaf, ond roedd hwnnw mewn llawysgrif.

Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o'r papur Ein Breiniad ar 21 Medi 1878, ychydig fisoedd wedi i Lewis Jones ddod â'r wasg argraffu gyntaf i'r Wladfa yn ôl pob tebyg, a hynny gyda'r amcan o 'ddeffro'r Cymry i'w cyfrifoldeb'. Cyhoeddwyd chwe rhifyn o fewn tri mis, Atodiad yn 1879 a rhifyn arbennig yn 1881.

Un o nodweddion Ein Breiniad oedd ei bod yn defnyddio'r wyddor a ddefnyddiai un o syfaenwyr y Wladfa, Michael D. Jones, a oedd yn defnyddio 'v' yn lle 'f', 'f' yn lle 'ff' ac 'x' yn lle 'ch'.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]