Eglwys San Pedr, Caerfyrddin
Math | eglwys |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Caerfyrddin |
Sir | Caerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 24.4 metr |
Cyfesurynnau | 51.858°N 4.30267°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I |
Cysegrwyd i | Sant Pedr |
Manylion | |
Eglwys y plwyf hynafol yn nhref Caerfyrddin yw Eglwys San Pedr. Lleolir yr eglwys yng nghanol y dref, rhwng Heol yr Eglwys a Heol San Pedr. Mae'n adeilad rhestredig Gradd I.[1]
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae'r eglwys bresennol yn dyddio o'r 12fed ganrif o leiaf. Rhoddwyd rhwng 1107 a 1124 i Abaty Battle, Sussex, gan y Brenin Harri I.[2] Credir a adeilwyd y corff yr eglwys yn ystod y 13eg neu 14eg ganrif, wedyn ailadeilwyd y tŵr tua diwedd y 15fed ganrif.[1] Rhwng yr 16eg ganrif a 1816, roedd yr eglwys yn eiddo i'r Goron, wedyn paswyd i Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan.[2] Yn 20fed ganrif, paswyd i'r Esgob Tyddewi.[1]
Gwnaed llawer o waith adfer yn ystod y 19eg ganrif. Ailosodwyd y ffenestri yn 1846, wedyn yr toeau 18ed ganrif John Nash rhwng 1861-66. Symudwyd organ 1796 a bedd Syr Rhys ap Thomas. Gosodwyd lloriau teils ym 1866 a 1876.[1]
Adeiladwyd porth mynwent (rhestredig Gradd II) ar Heol San Pedr yn 1879.[3]
Atyniadau
[golygu | golygu cod]Disgrifir y tŵr gorllewinol 3 llawr, sydd wedi'i baentio'n wyn, fel tirnod yn y dref.[4] Mae gan yr eglwys y casgliad helaethaf o henebion eglwysig yn ne-orllewin Cymru, rhai o'r safon uchaf.[1]
Claddedigaethau
[golygu | golygu cod]Claddwyd yr awdwr Syr Richard Steele (m. 1729) yn yr eglwys. Yn 2000 darganfu archeolegwyr ei benglog, a gafodd ei ail-gladdu ym 1876.[5] Mae bedd bocs Syr William Nott i'w weld ym mynwent yr eglwys i'r gogledd.[1]
Her cadw ar agor
[golygu | golygu cod]Yn 2014 adroddwyd ar y costau o gadw'r eglwys ar agor. Nodwyd bod cadw'r adeilad yn agored i eglwyswyr a'r cyhoedd yn costio oddeutu £50,000 y flwyddyn. Bwriadwyd hyrwyddo hanes yr eglwys gan gynnwys beddrod Rhys ap Thomas a'r cysylltiad gyda Llyfr Du Caerfyrddin fel modd o ddenu ymwelwyr a chefnogaeth ariannol.[6]
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Eglwys San Pedr o Stryd y Brenin, tua 1860
-
Tu fewn i'r eglwys
-
Eglwys o Heol yr Eglwys
Dolenni
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 (Saesneg) Parish Church of St Peter. British Listed Buildings. Adalwyd ar 31 Gorffennaf 2024.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Powel, Meilyr (2021). St Peter's Church, Carmarthen. Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Adalwyd ar 31 Gorffennaf 2024.
- ↑ (Saesneg) Lychgate to St Peter's Churchyard. British Listed Buildings. Adalwyd ar 1 Awst 2024.
- ↑ (Saesneg) St Peter, Carmarthen, Carmarthenshire (PRN 50). Heneb - Archaeoleg Dyfed. Adalwyd ar 1 Awst 2024.
- ↑ "Tatler essayist's skull discovered in lead box". The Guardian. 26 Medi 2000. Cyrchwyd 10 Awst 2024.
- ↑ "Hanes i achub Eglwys Sant Pedr?". BBC Cymru Fyw. 23 Ebrill 2014.